Myfyrwyr yn eistedd ar y traeth

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ei rhagoriaeth o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod y pandemig, wrth iddi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2021.

Mae'r gwobrau blynyddol, sydd bellach yn eu hwythfed flwyddyn, yn tynnu sylw at y gwaith a wneir gan sefydliadau i gefnogi eu myfyrwyr, ac yn dathlu gwytnwch, arloesedd ac amrywiaeth ym maes addysg uwch. Yn unigryw, mae'r enwebeion a'r enillwyr yn cael eu dewis gan fyfyrwyr, ac yn cael eu barnu gan banel o ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol a ddewiswyd yn benodol.

Roedd y gwobrau'n cynnwys pedwar categori eleni:

  • Cymorth Myfyrwyr
  • Rhagoriaeth mewn Arloesi Digidol
  • Deilliannau Gwell i Raddedigion
  • Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn ogystal â hawlio'r ail safle yn y categori Amrywiaeth a Chynhwysiant, gwnaeth Prifysgol Abertawe gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Rhagoriaeth mewn Arloesi Digidol.

Enillodd Prifysgol Abertawe wobr arian yn y categori Amrywiaeth a Chynhwysiant ar ôl creu argraff ffafriol ar y beirniad oherwydd ei hymrwymiad i feithrin amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n hybu amrywiaeth, a llawer o'i mentrau, gan gynnwys:

  • Sefydlu Pwyllgor Myfyrwyr i Gynghori ar Gynhwysiant Hiliol
  • Gweithio gydag un o ymarferwyr Advance HE i lunio atebion i wella profiad myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig a thramor yn y Brifysgol 
  • Creu fforwm i fyfyrwyr ag anableddau
  • Ffurfio grŵp cymorth ar gyfer myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd

Meddai'r Athro Martin Stringer, y dirprwy is-ganghellor addysg: “Rydym yn falch bod ymrwymiad Abertawe i wreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael ei gydnabod yn y ffordd hon.

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn brifysgol agored, ddiogel a chynhwysol ac, fel yr amlinellwyd yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Prifysgol Abertawe, ein nod yw parhau i adeiladu ar hyn a rhagori o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau. Gellir gwneud mwy o waith – a gwneir mwy o waith – a fydd yn arwain at greu amgylcheddau gwell i staff a myfyrwyr, gan hefyd hybu newid diwylliannol ym mhob rhan o'r Brifysgol a'r tu hwnt.”

Ewch i wefan WhatUni am ragor o wybodaeth am Wobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2021. 

Rhannu'r stori