Pic

Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio platfform digidol newydd a fydd yn trawsffurfio sut mae cadwyni cyflenwi’n gweithredu yn y diwydiant gweithgynhyrchu.

Bydd y system arloesol hon ar-lein, a gefnogir gan y Sefydliad Arloesol ym maes Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT), yn caniatáu i gyflenwyr gofrestru eu cynnyrch a’u gwasanaethau er mwyn dod yn rhan o rwydwaith cymeradwy.

Bydd y marchnadle yn darparu mwy o dryloywder ym mhroses y gadwyn gyflenwi, gydag amserau ymateb gwell a nwyddau/gwasanaeth a brisiwyd yn gywir – fel bod gwarant o ran   ansawdd, cost a sicrwydd.

Trwy weithgynhyrchwyr a chyflenwyr sydd wedi’u cysylltu’n well, gall cwmnïau ddechrau gweld cynhyrchion yn dod i’r farchnad yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

Mae cwmni masgiau wyneb newydd, MyMaskFit, wedi bod yn gweithio gydag IMPACT i weithgynhyrchu a phrofi masgiau wyneb ffitiad unigryw, a dod â nhw i’r farchnad. Y cwmni hwn fydd y cyntaf i dreialu’r platfform, ac maen nhw ar fin cychwyn y cyfnod cynhyrchu cyntaf.

Dyma sylwadau’r Prif Ymchwilydd, yr Athro Johann Sienz:

‘Rydym wrth ein bodd yn gweld llwyddiant y platfform i MyMaskFit. Mae wedi galluogi’r cwmni i symud eu masgiau wyneb unigryw ymlaen yn gynt – sy’n hanfodol yn y cyfnod hwn. 

Bydd lansio’r marchnadle digidol yn gwella rhwydweithiau cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu yn fawr. Bydd yn darparu mynediad i farchnad fwy agored a deinamig, gyda mwy o gyfle i Fusnesau Bach a Chanolig y Deyrnas Unedig, a thrwy wneud marchnadoedd yn fwy effeithlon a hyblyg, dylai gynyddu cynhyrchiant, cystadleurwydd ac agor cadwyni gwerth newydd trwy fedru estyn ymhellach.

Ein nod oedd creu model busnes newydd ar draws y diwydiant, un y mae modd ei efelychu’n genedlaethol ac yn fyd-eang – mae’r garreg filltir bwysig hon yn mynd â ni gam yn nes at gyflawni hynny.’

Dyma sylwadau Cyfarwyddwr Technoleg MyMaskFit ac arweinydd y prosiect, Paul Perera:

 ‘Mae’r datrysiad cychwynnol, sef masgiau gradd feddygol ar gyfer amgylchedd Gofal Cymdeithasol a’r GIG, sydd wedi’u llunio i ffitio wyneb y gweithiwr gofal sy’n sganio’i (h)wyneb ar gymhwysiad MyMaskFit, yn awr yn barod i’w uwchraddio. Rydym wedi datblygu sêl arbennig o silicon gradd feddygol a fydd yn ffitio rhwng haen allanol galed dryloyw’r masg a’r wyneb, a gwneir y mowldiau fydd yn creu’r seliau hyn trwy Weithgynhyrchu Ychwanegion.’

‘Mae’r dull addasu crynswth hwn yn rhoi pwysau ar y Gwely Profi Gweithgynhyrchu Clyfrach a arweinir gan Brifysgol Abertawe i gynhyrchu swmp o’r mowldiau a’r seliau hyn mewn marchnadle rheoledig. Rydym hefyd wedi gallu manteisio ar gapasiti sbâr rhai o’r cwmnïau Awyrofod mwyaf yn y Deyrnas Unedig i gefnogi’r marchnadle hwn a’n mentrau uwchraddio, ac rydym bellach yn awyddus i weld cwmnïau llai hefyd yn gallu elwa o alwadau newydd a chael mynediad i’r marchnadle er mwyn creu rhwydweithiau cadwyn gyflenwi newydd.’

Mae’r platfform ar agor ac yn barod ar gyfer cofrestru – ar hyn o bryd mae cyfle i gwsmeriaid gael tri mis yn ddi-dâl: madesmartermarketplace.co.uk 

Mae’r tîm ymchwil sy’n datblygu’r farchnad yn cynnwys arbenigedd y Ganolfan Technoleg Gweithgynhyrchu (MTC) ac WMG Prifysgol Warwick gydag Autodesk, Tech2B, Plyable, Carapace, PXL ICE, Cadarn ac AI Idea Factory yn bartneriaid o’r diwydiant. 

Ychwanegodd Asif Moghal, rheolwr y Diwydiant Dylunio a Gweithgynhyrchu, EMEA yn Autodesk:

‘Roedd newidiadau systemig ar waith yn y diwydiant gweithgynhyrchu ymhell cyn yr amharu cyffredinol yn 2020. Ond mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos pwysigrwydd cyfuno amgylcheddau digidol a ffisegol er mwyn medru bod yn ystwyth a chyflawni canlyniadau anhygoel. Gallai marchnadle digidol alluogi'r math yna o gydweithio ystwyth i ddod yn normal newydd, gan gyflwyno gwerth i'r diwydiant, uwchsgilio'r gweithlu a rhoi prosesau ar waith i leihau'r effaith ar yr amgylchedd. Rydym wrth ein bodd yn partnera â'r tîm ar y prosiect hwn.’

Dyma ddywedodd Sjors Hooijen - Cyd-Sylfaenydd a Phrif Swyddog Technegol Tech2B:

'Lluniwyd y platfform Tech2B i baratoi'r diwydiant dylunio a gweithgynhyrchu, sy'n newid yn barhaus, ar gyfer y dyfodol. Bydd amgylchedd diogel, wedi'i seilio ar y cwmwl, yn gwella tryloywder, gyda ffocws ar optimeiddio proses a chyfathrebu clir. Mae'r platfform yn offeryn gwych, ond yn y diwedd, y cwmnïau sydd arno fydd yn dod â gwerth ychwanegol i'w gilydd trwy leihau costau methiant, byrhau'r amser i gyrraedd y farchnad, a symud cydweithio ac arloesi ar y cyd i lefel hollol newydd.’

Dyma oedd sylw Lynne McGregor, Uwch Arweinydd Arloesedd - Gweithgynhyrchu Clyfrach a Hybiau Arloesi yn UKRI:
 
“Bydd y Marchnadle Cadwyni Cyflenwi Digidol (DSCM) yn arddangos sut gall digideiddio drawsffurfio cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu, fel bod modd sicrhau eu bod yn fwy effeithlon, datblygu cynnyrch a gwasanaethau o safon uwch, a'u gwneud yn ddigon cydnerth i ddelio â dyfodol sy'n newid yn gyflym.
 
Bydd y gwely profi Gwneuthuriad Clyfrach hwn, sy'n cael ei arddangos gan MyMaskFit, yn dempled ar gyfer creu marchnadleoedd eraill i wasanaethu sectorau, ardaloedd daearyddol a llinellau fertigol eraill.”

Ariannir y prosiect gan raglen gyllido Gweithgynhyrchu Clyfrach Innovate UK. Ariannir rhaglen IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori