Digwyddiad rhwydwaith

Mae rhwydwaith ymchwil Cymru gyfan mewn peirianneg a deunyddiau uwch, dan arweiniad athro peirianneg o Brifysgol Abertawe, wedi cael cyllid am yr eildro a fydd yn ei alluogi i barhau â'i waith am ddwy flynedd arall.

Nod Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru mewn Peirianneg a Deunyddiau Uwch yw hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil a chysylltiadau â diwydiant sy'n ymwneud ag amrywiaeth eang o heriau peirianneg.

Rhwng 2013 a 2019, roedd y rhwydwaith peirianneg yn llwyddiannus iawn wrth ysgogi gwaith ymchwil a datblygu yng Nghymru drwy gydweithredu. Cyflwynwyd mwy na 60 o brosiectau ymchwil a datblygu, mewn partneriaeth ag ymchwilwyr o brifysgolion a thimau diwydiannol yng Nghymru.

Nawr, diolch i gyllid gwerth £183,000 gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gall ei waith barhau. Ceir digwyddiad i'w ail-lansio ar 29 Mehefin.

Mae pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru bellach yn rhan o'r rhwydwaith: mae adrannau peirianneg, gwyddoniaeth gymhwysol a thechnoleg ym mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd yn ogystal â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, PCYDDS a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam i gyd yn cydweithio i hyrwyddo arloesi o'r radd flaenaf ym maes peirianneg o bob rhan o Gymru.

Mae'r rhwydwaith ar agor i bob academydd mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru sy'n gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig â phrosesau a deunyddiau peirianneg uwch. Dyma un o dri rhwydwaith ymchwil cenedlaethol Sêr Cymru.

Caiff y rhwydwaith ei reoli gan yr Athro Huw Summers, o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, a'i oruchwylio gan grŵp llywio sy'n cynnwys cynrychiolwyr y prifysgolion perthnasol a'r partner diwydiannol TWI Ltd.

Meddai'r Athro Huw Summers o Brifysgol Abertawe, cyfarwyddwr y rhwydwaith:

“Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y rhwydwaith yn parhau drwy brosiect newydd, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth cam cyntaf y rhwydwaith ganolbwyntio ar feithrin perthnasoedd ledled Cymru a'r tu hwnt drwy brosiectau ymchwil cydweithredol a wnaeth ariannu 40 o fyfyrwyr PhD a 46 o ymchwilwyr ôl-ddoethurol mewn rhaglenni ar y cyd â mwy na 70 o bartneriaid masnachol.

Mae penderfyniad beiddgar Llywodraeth Cymru i greu rhaglen Sêr Cymru bellach wedi cael ei gydnabod fel cam blaengar ac uchelgeisiol sydd wedi rhoi hwb sylweddol i allu Cymru i wneud gwaith ymchwil a datblygu. Mae'n wych gweld y bydd momentwm y rhwydwaith yn parhau drwy ail gam.”

Rhannu'r stori