Llun o fyfyrwyr yn eistedd wrth ddesgiau ac yn ysgrifennu.

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn rhoi tystiolaeth o’r effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed, a sut y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae’r ymchwil yn dwyn ynghyd ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru dros dair blynedd a chanfu'r canlynol:

  • Mae gan un o bob pump o bobl ifanc 16 – 22 oed yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu;
  • Mae dynion a menywod yn y grŵp oedran hwn yr un mor debygol o fod yn ofalwyr ifanc;
  • Ar y cyfan, mae cyfran y bobl ifanc mewn addysg amser llawn yn is ymhlith gofalwyr ifanc (45 y cant ymhlith gofalwyr, o’i gymharu â 54 y cant ymhlith y rhai nad ydynt yn ofalwyr), ac mae’r gwahaniaeth hwn yn fwy yn y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Un canfyddiad newydd yn yr astudiaeth hon yw'r dystiolaeth newydd i awgrymu bod y gwahaniaeth hwn yn y grwpiau oedran hŷn (19 i 22 oed) yn bennaf, lle mae'r gyfran mewn addysg drydyddol amser llawn 10 y cant yn llai ymhlith gofalwyr.  Mae’r cyfranogiad isaf ymhlith y rhai â chyfrifoldebau gofalu sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae dim ond 19 y cant sy'n parhau mewn addysg drydyddol amser llawn.

Meddai  Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r astudiaeth hon yn rhoi tystiolaeth feintiol werthfawr ar effaith negyddol cyfrifoldebau gofalu ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg, a sut y mae hyn yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Yn ddiddorol, roedd un o’r gwahaniaethau mwyaf ymhlith y rhai 19-22 oed, beth bynnag oedd eu lefelau amddifadedd sylfaenol, ac mae hyn yn tynnu sylw at yr angen i gefnogi pobl ifanc ar draws sectorau addysg.

Mae addysg yn allweddol i lwyddiant a chyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol. Mae dulliau fel nodi gofalwyr ifanc, galluogi cymorth cynnar lle mae ei angen a darparu mwy o gymorth mewn lleoliadau addysgol, yn cynnwys y potensial i alluogi pobl ifanc i aros a ffynnu mewn addysg, tra’n parhau i gyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.”

Meddai Fangzhou Huang, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mewn astudiaethau eraill, myfyriodd gofalwyr ifanc ar y ffaith bod eu dewisiadau addysgol yn cael eu cyfyngu gan gyfrifoldebau gofalu. Dangosodd y dystiolaeth gyfranogiad is o lawer mewn addysg drydyddol ymhlith gofalwyr ifanc. Dylai lleoliadau addysgol, mewn partneriaeth ar draws sectorau, roi cymorth cymdeithasol ac academaidd i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc a chodi eu dyheadau addysgol i gyflawni eu potensial mewn addysg.”

Meddai Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru“Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw yn gryf sy'n gwneud cyfraniad defnyddiol at ein dealltwriaeth o'r rhyngberthynas rhwng gofalwyr ifanc, tlodi ac addysg.

Mae'r canfyddiadau yn y ffeithlun hwn yn helpu i fynd i'r afael â rhai bylchau gwybodaeth allweddol yn ein dealltwriaeth o ymgysylltu addysgol gofalwyr ifanc. Mae'r ffeithlun yn rhoi tystiolaeth gref y gellir gwneud mwy ac y dylid gwneud mwy i sicrhau bod yr holl ofalwyr ifanc yn cael y cymorth cywir i’w galluogi i gymryd rhan mewn addysg.

Ers amser maith, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'n partneriaid rhwydwaith wedi disgrifio’r cysylltiad rhwng gofalu a pheidio â bod mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Gobeithiwn y bydd y dystiolaeth amserol hon yn helpu i lunio camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar addysg i ofalwyr ifanc yng Nghynllun Cyflawni Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru a gyhoeddir yn fuan."

Mae ‘Cau’r bwlch ymgysylltu addysgol i ofalwyr ifanc’ yn astudiaeth ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, a gyllidwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhannu'r stori