Deunydd delltog hecsagonol ar fin ildio dan gywasgiad © Micah Arago.

Deunydd delltog hecsagonol ar fin ildio dan gywasgiad © Micah Arago.

Mae astudiaeth newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi fformiwla fathemategol newydd a fydd yn helpu peirianwyr i asesu'r pwynt pan fo deunyddiau cellog, a ddefnyddir at amrywiaeth eang o ddibenion, o awyrofod i'r diwydiant adeiladu, yn plygu ac yn ildio.

Mae'r Athro Sondipon Adhikari, o'r Coleg Peirianneg, wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau yn Proceedings of the Royal Society A. Mae'r astudiaeth yn amlinellu fformiwla a all gyfrifo ansefydlogrwydd elastig deunydd cellog, sef deunydd delltog hecsagonol yn yr achos hwn, a ddefnyddir yn gyffredin wrth gynhyrchu adeileddau ysgafn megis sbwng sy'n amsugno ynni, metaddeunyddiau mecanyddol ac acwstig, a thechnoleg stent y genhedlaeth nesaf.

Bydd fformiwla'r Athro Adhikari, a fynegir ar ffurf ateb syml, yn helpu peirianwyr i wneud cyfrifiadau dylunio cyflym a gellir ei defnyddio hefyd i feincnodi astudiaethau arbrofol a rhifiadol yn y dyfodol.

Meddai'r Athro Adhikari: “Mae'r papur hwn yn deillio o ddwy flynedd o ymchwil barhaus. Gellir gweld yr ateb syml sy'n mynegi cywasgedd ildio critigol fel estyniad o fformiwla llwyth critigol glasurol Euler, sy'n deillio o 1757, a wnaeth gyfrifo'r cywasgedd pan fyddai trawst yn plygu'n sydyn ac yn ildio. Mae'r mynegiant newydd hwn yn cyflwyno ateb ar gyfer adeiladu deunyddiau cellog yn yr 21ain ganrif, a ddefnyddir at ddibenion uwch-beirianneg, nawr ac yn y dyfodol.”

Rhannu'r stori