Carchar: caiff effaith cyfyngiadau Covid-19 ar garcharorion a charchardai ei harchwilio mewn prosiect ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe

Caiff effaith cyfyngiadau Covid-19 ar garcharorion a charchardai ei harchwilio mewn prosiect ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sydd wedi cael cyllid gwerth £251,240 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, i weld pa wersi y gellid eu dysgu.

Mae mesurau rheoli'r pandemig wedi creu anawsterau mawr i garchardai a charcharorion. Mae cadw pellter cymdeithasol yn anodd iawn mewn llawer o garchardai oherwydd eu hamgylchiadau ffisegol cyfyng.

Mae cyflwr emosiynol ac iechyd meddwl llawer o garcharorion yn fregus iawn a cheir cyfraddau uchel o drais, hunanladdiad a hunan-niweidio. Daw nifer anghymesur o garcharorion o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig ac mae Covid-19 yn arbennig o beryglus i bobl o'r grŵp hwnnw.

Mae mesurau diogelu iechyd i fynd i'r afael â Covid-19 wedi gosod cyfyngiadau ychwanegol ar garcharorion, ar ben y rhain a geir fel rheol mewn carchardai. Er enghraifft, i'r mwyafrif helaeth ohonynt, mae gwaith, addysg, gweithgareddau adsefydlu ac ymweliadau teulu wedi dod i ben neu gael eu lleihau'n sylweddol ac maent yn gaeth i gell am fwy o amser.

Arweinydd y prosiect fydd yr Athro Jason Davies o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe a bydd cynrychiolwyr o brifysgolion yn Belfast, Lerpwl, Lincoln a Chaerlŷr, yn ogystal â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn cydweithio ag ef.

Bydd aelodau'r tîm yn ceisio darganfod effaith cyflwyno cyfyngiadau – a'u llacio – ar les seicolegol ac ymddygiad carcharorion. Byddant yn archwilio unrhyw wahaniaethau yn yr ymatebion ac yn dadansoddi'r ffactorau sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau hyn.

Bydd eu canfyddiadau'n debygol o fod yn berthnasol i garchardai’n gyffredinol. Fodd bynnag, maent yn canolbwyntio ar is-grŵp o garcharorion mewn 34 o garchardai sy'n dilyn y Llwybr Anhwylder Personoliaeth Troseddwyr.

Byddant yn cyfweld â sampl o garcharorion o'r grŵp hwn, yn ogystal â dadansoddi data ar iechyd meddwl a lles dros amser.

Meddai'r Athro Jason Davies o Brifysgol Abertawe, prif ymchwilydd y prosiect:

“Mae deall a dysgu gwersi effaith Covid-19 ar garchardai, a'r ymatebion i'r argyfwng, yn hanfodol.

Mae angen i ni nodi sut i fod yn fwy cydnerth, rhag ofn y bydd angen mesurau cyfyngol eraill wrth i'r pandemig barhau.

Efallai y bydd ein canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at arferion a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i garchardai a charcharorion o ddydd i ddydd.

Bydd yr ymchwil hefyd yn ein galluogi i archwilio a yw Covid-19 yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol o garcharorion, er enghraifft grwpiau ethnig, yn yr un modd â'r gymuned ehangach.”

Ariennir y gwaith ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o ymateb cyflym y corff Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i Covid-19.

Cyfiawnder a chydraddoldeb - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori