Cell coronafeirws.

Adroddiad yn cyfleu’r gwersi a’r arferion arloesol sy’n dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Mae adroddiad newydd sy’n archwilio’r gwersi a’r arferion arloesol sydd wedi dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru mewn ymateb i COVID-19 wedi cael ei ryddhau heddiw gan Brifysgol Abertawe, ar ran sefydliadau a phartneriaid GIG Cymru.

Mae Adroddiad Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru yn amlygu canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a’r gwersi a ddysgwyd ynghylch sut llwyddodd sefydliadau a staff y GIG i arloesi wrth wynebu’r pandemig. Mae hefyd yn amlinellu camau nesaf.

Cafwyd dros 1,000 o ymatebion i bum astudiaeth ac arolwg gan drawstoriad eang o staff, yn ogystal â phum adroddiad pellach a gyhoeddwyd ar draws y sector iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’r ymatebion a’r dadansoddiadau wedi cynnig sail dystiolaeth eang ar gyfer yr arferion newydd ac arloesol sydd wedi dod i’r amlwg.

Mae’r themâu a’r gwersi sy’n cael eu hamlygu yn adroddiad yr astudiaeth yn cynnwys mynediad digidol gwell, gwneud penderfyniadau yn gyflymach, cynnal cyflymder arloesi a newid, a lles staff.

Oherwydd y pwyslais o’r newydd ar adfer y GIG, bydd yr adroddiad yn sylfaen ar gyfer newid wrth gyflwyno gwasanaethau ar ôl argyfwng COVID-19.

Cyhoeddwyd set o astudiaethau achos ategol ynghyd â’r adroddiad.

Meddai Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Mae ein hymateb i Covid-19 wedi cyflymu’r gwaith o weithredu sawl agwedd ar ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal, sef Cymru Iachach. Wrth i ni wynebu’r cyfnod heriol sydd o’n blaenau a mynd ati i sefydlogi ac ailadeiladu ein gwasanaethau, bydd cyfle i ni ddatblygu’r enghreifftiau arloesol yn yr adroddiad hwn a sicrhau bod ein ffyrdd newydd o weithio yn cael eu sefydlu’n gadarn yn ein system gofal iechyd.” 

Meddai Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:Bydd yr adroddiad hwn yn galluogi arweinwyr y GIG i fyfyrio ar y gwersi a’r arferion arloesol a’u gwreiddio ym mhob rhan o’r gwasanaeth, gan gyflymu newid er mwyn gwella’r ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru’n cael eu cyflwyno. Mae’r ymateb i bandemig COVID-19 wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio ar draws sectorau, gyda pholisïau integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth i ni ddechrau ar y daith tuag at adferiad, ein gobaith yw y bydd yr adroddiad yn sbardun ar gyfer gweithredu a gwella gwasanaethau ar draws iechyd a gofal yng Nghymru.”

Meddai Tom James, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “O ddechrau pandemig COVID-19, rydym wedi gweld cynifer o staff iechyd a gofal yn gweithredu’n reddfol i ymateb yn gyflym ac yn arloesol i amgylchiadau newydd, gan ychwanegu gwerth newydd sylweddol.  Mae ein tîm prosiect wedi casglu amrywiaeth enfawr o dystiolaeth o’r gwersi a ddysgwyd ac arferion newydd trwy’r Astudiaeth Arloesi, er mwyn darparu mynediad agored at yr wybodaeth hon a’i galluogi i gael ei mabwysiadu ledled Cymru.”

Meddai Dr Daniele Doneddu, Prif Ymchwilydd Prifysgol Abertawe: “Daw’r astudiaeth a’r adroddiad ar adeg allweddol o ran adennill tir ar ôl COVID-19. Yn ystod y prosiect cyffrous hwn, rydym wedi dod ar draws amrywiaeth eang o elfennau cymhleth y bydd angen ymchwiliad trylwyr arall iddynt yn ddiamau. Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio polisïau yn y dyfodol ac y bydd o werth gwirioneddol wrth gyfrannu at GIG Cymru, dyfodol y wlad, a dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r tu hwnt.”

Meddai’r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe yn parhau â’i chenhadaeth i helpu i greu dyfodol gwell ac iachach ar gyfer pobl Cymru trwy ein hymdrechion ymchwil ac arloesi. Mae’r adroddiad ymchwil hynod gydweithredol – a baratowyd gan bartneriaeth amlddisgyblaethol o dan arweiniad ein Hysgol Reolaeth, gyda chydweithrediad ehangach y colegau a’r Ysgol Feddygaeth, rhaglen Cyflymu’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, yn ogystal ag ARCH a Chomisiwn Bevan – yn amlygu bod cyfle i arloesi i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynorthwyo agendâu iechyd a lles GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.” 

Adroddiad Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru.

Astudiaethau achos ategol.

Rhannu'r stori