Llun yr Athro Mary Gagen o goedwig law Geltaidd Gwenffrwd-Dinas, ger Llanymddyfri.

Mae ecolegydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o'r tîm sydd wedi creu adnodd ar-lein newydd pwysig sy'n datgelu i ba raddau y mae bioamrywiaeth ardaloedd wedi newid dros amser.

Mae'r Athro Luca Borger, o Adran y Biowyddorau, yn arbenigo mewn asesu sut mae newid amgylcheddol yn effeithio ar fioamrywiaeth leol a byd-eang, yn ogystal ag archwilio sut i ddatblygu polisïau ar gyfer bywyd cynaliadwy ar y Ddaear.

Mae'n un o'r partneriaid ym mhrosiect PREDICTS: Projecting Responses of Ecological Diversity In Changing Terrestrial Systems yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain dan arweiniad yr Athro Andy Purvis.

Gwnaeth aelodau'r tîm ddatblygu'r Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (Biodiversity Intactness Index), mesurydd gwyddonol gadarn a gafodd sylw wrth i declyn archwilio tueddiadau bioamrywiaeth yr amgueddfa gael ei lansio. Mae gwyddonwyr yn gobeithio y bydd y teclyn ar-lein hwn yn adnodd allweddol ar gyfer llunwyr polisïau wrth iddynt gwrdd â'i gilydd yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth 2021 y Cenhedloedd Unedig (COP 15) i asesu cyflwr bioamrywiaeth ecosystemau lleol ledled y byd.

Mae eu gwaith ymchwil wedi datgelu bod bioamrywiaeth y byd wedi gostwng yn is na'r terfyn diogel wrth i fyd natur ddioddef o ganlyniad i amaethyddiaeth ac effaith dinistrio cynefinoedd. Mae'n ysgytiol bod y DU bellach ymysg y 10 y cant o wledydd gwaethaf yn y byd yn hyn o beth. Dim ond hanner ei holl fioamrywiaeth sy'n weddill.

Gwnaeth yr Athro Borger rybuddio bod angen i lywodraethau gymryd camau gweithredu pendant ar frys, ynghyd â chymryd camau i atal rhagor o newidiadau byd-eang cyflym rhag digwydd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, sy'n hollbwysig.

Meddai: “Nid dyma'r amser am ragor o addewidion mawreddog ond gwag gan wleidyddion, yn enwedig llywodraeth y DU, gan fod y wlad ymysg y rhai gwaethaf yn y byd o ran cyfanrwydd ei bioamrywiaeth.

“Mae bioamrywiaeth yn ategu prosesau ecosystemau, gan gynnwys y rhai sy'n darparu adnoddau a gwasanaethau cynnal bywyd i bobl.

“Mae'r dystiolaeth sydd ar gael hyd yn hyn yn awgrymu os bydd cyfanrwydd bioamrywiaeth yn llai na 90 y cant, torrir y terfynau diogel i osgoi'r risg y bydd amgylchiadau ecolegol ledled y blaned yn dirywio'n ddifrifol, gan effeithio ar y ffiniau diogel ar gyfer bywyd ar y Ddaear.”

Mae'r Athro Borger wedi bod yn rhan o brosiect PREDICTS ers 2013. Mae'n dweud mai nod y prosiect yw mesur patrymau byd-eang ymateb bioamrywiaeth i newidiadau o ran y defnydd o dir yn lleol, fel newid o fod yn goedwig grai i fod yn dir amaethyddol, er enghraifft.

Meddai: “Roedd y gwaith hwn yn cynnwys llunio modelau ystadegol priodol, a fu'n un o'm prif gyfraniadau. Rydym wedi casglu cronfa ddata fawr iawn sy'n cynnwys bioamrywiaeth leol miloedd o safleoedd ledled y byd, a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r modelau ystadegol hyn.

“Yn fwy diweddar, gwnaethom gyfuno'r modelau hyn â chyfres o newidynnau amgylcheddol er mwyn cael gafael ar fesurydd newydd, sef y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth. Drwy hyn, rydym wedi llwyddo i fesur i ba raddau y mae gwledydd gwahanol wedi llwyddo i gynnal lefel eu bioamrywiaeth, o ystyried newidiadau i'r ffordd y maent wedi defnyddio eu tir. Rydym hefyd yn gallu rhagfynegi newidiadau yn y dyfodol dan amgylchiadau newidiadau byd-eang gwahanol.

“Felly, gwnaethom ddangos bod gwledydd datblygedig, o ganlyniad i newidiadau i'r defnydd o dir yn dilyn y chwyldroadau diwydiannol ac amgylcheddol, wedi cynnal lefel isel o'u bioamrywiaeth naturiol a bod y sefyllfa waethaf yma yn y DU.”

Fodd bynnag, gwnaeth gynnig rhywfaint o obaith wrth edrych tua'r dyfodol: “Ar hyn o bryd, mae cyfanrwydd bioamrywiaeth yn 75 y cant ar gyfartaledd yn fyd-eang, ac yn 53 y cant yn y DU, sy'n destun pryder pendant. Serch hynny, mae'n bosib ymateb i hyn ac ail-greu amgylchiadau mwy diogel, ond bydd angen cymryd camau gweithredu pendant, a hynny ar frys.”

Mae ymchwil ddiweddaraf yr Athro Borger ar y thema newydd gael ei chyhoeddi gan y cyfnodolyn ar-lein Scientific Reports. Mae'n archwilio newidiadau blynyddol i'r Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth ym mïomau coedwigoedd trofannol ac isdrofannol.

Rhannu'r stori