Gwirfoddolwyr ymhlith y myfyrwyr yn creu rhai o'r pecynnau a ddosbarthwyd i'r gymuned leol

Fel rhan o'u hymrwymiad i roi cymorth allweddol drwy gydol y pandemig, mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi gwirfoddoli i greu pecynnau gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl yn y gymuned.

Ers mis Medi 2020, mae aelodau o Discovery, elusen Prifysgol Abertawe a arweinir gan wirfoddolwyr, wedi creu a dosbarthu mwy na 325 o becynnau i hybu lles, yn ogystal â 120 o becynnau gofal. 

Gan ddefnyddio sawl thema, gan gynnwys gweithgareddau, anrhegion i hybu lles, a heriau adeiladu, roedd aelodau'r tîm am sicrhau y byddai rhywbeth at ddant pawb.

Meddai rhiant bachgen a gafodd becyn gweithgareddau’r prosiect Ysbrydoli: “Gwenodd pan gafodd y pecyn – roedd y ffaith ei fod wedi cael ei ddosbarthu â llaw a'i orchuddio â sticeri mor ystyriol!

“Roedd yr wybodaeth yn y pecyn yn ddefnyddiol iawn ac yn berthnasol ac roedd y gweithgareddau'n hyfryd, gan y gallwn eu gwneud hwy fel teulu. Roedd y bwrdd crafu'n boblogaidd iawn, ac roedd yn hawdd dilyn y cyfarwyddiadau hefyd.”

Yn ogystal, aeth y myfyrwyr a fu'n gwirfoddoli ati i ysgrifennu a darlunio llyfr mewn pecyn a oedd yn canolbwyntio ar ddarllen er difyrrwch. Mae'r llyfr, Luna the Lab, yn helpu i esbonio'r pandemig i blant.

Meddai rhiant a gofrestrodd ei blentyn ar gyfer y prosiect Darllen gyda Bydi: “Roeddem yn dwlu ar y llyfr hwn! Stori hyfryd gyda lluniau hardd. O safbwynt rhiant, mae'n gyfle gwych i siarad â phlant am ein teimladau yn ystod y pandemig, rhai cadarnhaol a negyddol. Roedd hefyd yn gyfle da i'n hatgoffa am y pethau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r profiad hwn, fel amser ychwanegol gyda'r teulu.”

Roedd rhai pecynnau gweithgareddau'n ategu'r sesiynau ar-lein wythnosol y gwnaeth y myfyrwyr a fu'n gwirfoddoli gyda Discovery eu cynnal gydag oedolion anabl.

Meddai Anne, y mae ei merch wedi bod yn derbyn y pecynnau wrth warchod ei hun: “Mae'r pecynnau sydd wedi cael eu hanfon gan Discovery yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn wych!

“Mae'r myfyrwyr wedi bod yn flaengar wrth greu gweithgareddau y gall aelodau’r grŵp eu gwneud gyda'i gilydd yn y sesiynau wythnosol drwy Zoom, megis paentio cerrig, gwneud crempogau, plannu hadau ac addurno masgiau. Bob ychydig wythnosau, mae parsel pert yn cyrraedd gyda'r holl ddeunyddiau angenrheidiol ar gyfer gweithgareddau'r tymor.

“Mae'r cwbl wedi cael ei drefnu'n a'i gynllunio'n ofalus iawn. Mae'r sesiynau drwy Zoom wedi bod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ac ymarfer sgiliau cymdeithasol ar adeg pan fu cyfyngiadau llym ar gysylltiadau cymdeithasol.”

Mae'r pecynnau hefyd wedi bod yn brofiad gwych i'r gwirfoddolwyr eu hunain, gan roi cyfle iddynt greu effaith gadarnhaol ar eu cymuned leol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Meddai Alice Teague, un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a fu'n gwirfoddoli: “Rwyf wedi mwynhau gwirfoddoli'n fawr dros y misoedd diwethaf gan ei bod yn rôl sy'n rhoi cymaint o foddhad.

“Cefais gymaint o hwyl yn pacio'r adnoddau ar gyfer y tymor hwn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at yr holl weithgareddau gwych sydd yn yr arfaeth.”

Rhannu'r stori