Rhwydwaith: mae'r academyddion Prifysgol Abertawe yn ymuno â 35 o gymrodyr newydd eraill, y mae gan bob un ohonynt gysylltiad â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob math o arbenigedd.

Mae deg o academyddion Prifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Maent yn ymuno â 35 o gymrodyr newydd eraill, y mae gan bob un ohonynt gysylltiad â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob math o arbenigedd.

Y cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe yw:

· Yr Athro David Benton FLSW, Athro Seicoleg

· Yr Athro Alan Dix FLSW, Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe

· Yr Athro Tess Fitzpatrick FAcSS FLSW, Athro Ieithyddiaeth Gymhwysol

· Yr Athro Helen Griffiths FRSB FLSW, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe

· Yr Athro William Griffiths FRSC FLSW, Athro Sbectrometreg Màs

· Yr Athro Harshinie Karunarathna FHEA FLSW, Athro Peirianneg Arfordirol

· Yr Athro David Lamb FRSB FRSC FLS FLSW, Athro Gwyddorau Biofeddygol

· Yr Athro Serena Margadonna FLSW, Pennaeth Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol a Chadeirydd Peirianneg Deunyddiau, Prifysgol Abertawe

· Yr Athro Gareth Stratton FBASES FECSS FRSA FLSW, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, Gweithgarwch Corfforol, Chwaraeon, Iechyd a Lles; Dirprwy Bennaeth y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

· Yr Athro Huw Summers FLSW, Athro Nanodechnoleg Iechyd

Gellir lawrlwytho rhestr gyflawn o'r cymrodyr newydd, sy’n rhestru eu sefydliadau a’u meysydd arbenigol, yma. Mae'r cymrodyr newydd yn dangos bod rhagoriaeth ymchwil, prifysgolion a bywyd deallusol Cymru’n parhau, gan ddisgleirio yn ystod digwyddiadau eithriadol blwyddyn yr effeithiwyd arni gan y pandemig.

Mae'r cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o sefydliadau addysg uwch Cymru, y DU a thramor, yn ogystal ag unigolion sy'n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae eu harbenigeddau'n amrywio o nanodechnoleg i jazz, hanes seneddol i fioleg tiwmorau, ymysg llawer o bethau eraill.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas, am yr aelodau newydd:

“Mae’n bleser gennyf groesawu ein cymrodyr newydd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae'r flwyddyn ddiwethaf ryfeddol hon wedi dangos gwerth ymchwil o'r radd flaenaf. Mae galw mawr am wybodaeth ac arbenigedd, ym mhob maes, wrth i ni geisio ymateb i heriau'r pandemig. Mae ein cymrodyr ar flaen y gad o ran yr wybodaeth a'r arbenigedd hwnnw.

“Rydym wedi ethol canran uwch o fenywod yn gymrodyr nag erioed o'r blaen hefyd – 38%. Mae angen i ni wneud mwy, ond rwyf yn falch hefyd ein bod ni’n gwneud cynnydd yn ein hymdrechion i sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru yn well.”

Meddai’r Athro Simon Hands FLSW, o’r Adran Ffiseg, sy’n un o gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Rwy’n falch o gael cyfle i groesawu’r cymrodyr newydd i gymuned Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae mwy na 90 ohonynt sy’n gysylltiedig ag Abertawe erbyn hyn. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod ac yn meithrin ymchwil ac ysgolheictod o’r radd flaenaf, ac mae’n galonogol iawn gweld bod y gwerthoedd hyn mor gryf ym Mhrifysgol Abertawe.”

Mae ethol rhywun i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac mae’n dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau pob enwebai yn ei faes perthnasol.

Erbyn hyn, mae gan Gymrodoriaeth y Gymdeithas 595 o aelodau. Mae eu harbenigedd cyfunol yn galluogi’r Gymdeithas i gryfhau ei chyfraniad at fywyd cyhoeddus Cymru, drwy ei chyfraniadau at ddatblygu polisïau llywodraethol, cynnal darlithoedd a seminarau cyhoeddus a’i rhaglen Astudiaethau Cymreig wrth iddi ehangu.

Caiff y cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir ar 19 Mai.

Rhannu'r stori