Y Brifysgol yn croesawu dychweliad taith gerdded elusennol ar y traeth

Bydd taith gerdded ar y traeth i godi arian a chynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe cyn diwedd y mis hwn.

Bydd Gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe'n cynnal HOPEWALK 2021 ddydd Sul, 31 Hydref i gefnogi PAPYRUS, yr elusen sy'n ceisio atal achosion o hunanladdiad drwy gynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc. 

Bydd y tro crwn tair milltir o hyd ar y traeth yn dechrau o 10.30am yn The Secret Beach Bar and Kitchen ar Heol y Mwmbwls ac yn gorffen yn yr un lleoliad. 

Meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Lles y Brifysgol: “Rydym yn falch o gynnal HOPEWALK am y trydydd tro ac o gefnogi gwaith PAPYRUS i ddiogelu pobl ifanc rhag hunanladdiad. Rydym yn rhannu ei nod o alluogi ein cymuned i gydnabod bod rhywun ifanc mewn perygl o ladd ei hun ac i ymateb i'r perygl hwnnw.” 

Gwnaeth bron 100 o bobl gymryd rhan yn nigwyddiad HOPEWALK cyntaf y Gwasanaeth Lles yn 2019, a gododd fwy na £1,000. Y llynedd, llwyddodd digwyddiad HOPEWALK arbennig mewn swigod – pan wnaeth cerddwyr gadw pellter cymdeithasol wrth deithio mewn lleoliadau o'u dewis – i gasglu bron £1,000 hefyd.

Eleni, mae'r gwasanaeth yn apelio at aelodau o'r Brifysgol a'r gymuned leol i gymryd rhan unwaith eto.

Ychwanegodd: “Yn ogystal â chodi arian i gefnogi gwaith allweddol PAPYRUS, mae digwyddiadau HOPEWALK yn gyfle i ddod ag aelodau o'n cymuned y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt ynghyd.”

Meddai Ryan Hole, o The Secret Bar and Kitchen, noddwr y digwyddiad eleni: “Roeddem yn falch iawn pan wnaeth Prifysgol Abertawe ofyn i ni gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Rydym bob amser yn awyddus i gefnogi elusennau sy'n gwasanaethu ein cymuned leol.

"Mae'r cymorth gwych y mae PAPYRUS yn ei gynnig i bobl ifanc yn bodloni'r gofyniad hwnnw'n bendant. Dylai'r daith gerdded fod yn ddigwyddiad gwych i bawb sy'n cymryd rhan.”

Yn ystod mis Hydref bob blwyddyn, cynhelir digwyddiadau tebyg ledled y DU er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Cofrestrwch nawr i gymryd rhan yn HOPEWALK neu cyfrannwch at PAPYRUS drwy’r dudalen Just Giving.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Carl Ely  

 

Rhannu'r stori