Ysbyty trin canser newydd yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a gaiff ei adeiladu drwy ddefnyddio dulliau nad ydynt yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Llun: Down to Earth

Ysbyty trin canser newydd yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a gaiff ei adeiladu drwy ddefnyddio dulliau nad ydynt yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd.  Llun: Down to Earth

Mae ymchwilwyr o'r Ysgol Seicoleg wedi sicrhau cyllid i archwilio buddion iechyd posib creu ysbytai ecogyfeillgar cynaliadwy a rhoi gofal iechyd yn yr awyr agored.

Bydd yr Athro Jason Davies a Dr Kim Dienes yn cydweithio â Down to Earth – y fenter gymdeithasol arobryn leol – i archwilio effaith y cynllun Parod at y Dyfodol.

Dyfarnwyd £50,000 i'r tîm o Abertawe ar gyfer y gwaith gwerthuso, fel rhan o'r cyllid cyffredinol gwerth £1,051,000 a ddarperir i'r cynllun.

Mae Parod at y Dyfodol yn datblygu dau brosiect iechyd arloesol ar gyfer y GIG.

Y cyntaf yw ysbyty trin canser newydd yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a gaiff ei adeiladu drwy ddefnyddio dulliau nad ydynt yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Bydd yn defnyddio deunyddiau naturiol megis pren a chobyn, ac yn defnyddio ynni a dŵr mewn modd cynaliadwy. Y nod yw gwella lles cleifion, hyrwyddo bioamrywiaeth ac amlygu dulliau carbon isel, naturiol o adeiladu.

Mae'r ail brosiect yn ddôl iechyd, gerllaw Ysbyty Athrofaol Llandochau, ger Penarth. Caiff cae saith erw a choetir cyfagos saith erw eu trawsnewid yn gyfleuster gofal iechyd ac adsefydlu awyr agored.

Caiff y ddau safle eu dylunio a'u hadeiladu mewn cydweithrediad â chleifion, staff ysbyty a'r gymuned leol.

Mae gwaith ymchwil blaenorol gan y tîm o Abertawe wedi dangos bod ennyn diddordeb grwpiau bregus ac anodd eu cyrraedd mewn dulliau adeiladu cynaliadwy yn gallu gwella sgiliau a chymhelliant a chael effeithiau pwysig ar gysylltedd cymunedol ac iechyd meddwl.

Meddai'r Athro Jason Davies o Brifysgol Abertawe:

“Mae buddion treulio amser yn yr awyr agored yn cael eu cydnabod yn fwyfwy. Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle unigryw i ymestyn ein gwaith ymchwil blaenorol er mwyn ystyried sut gallai cymryd rhan mewn prosiectau adeiladu, tirweddu ac ecolegol fod o fudd i amrywiaeth o grwpiau clinigol, staff gofal iechyd ac aelodau o'r gymuned ehangach.

Mae'r gwaith hwn yn cyfleu syniadau craidd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i'r dim a gall arwain at greu dulliau newydd o ddatblygu adeiladau a chyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn y dyfodol.”

Meddai Dr Kim Dienes o Brifysgol Abertawe:

“Cydnabyddir bod mentrau gwyrdd yn arbennig o bwysig ar ôl cyfyngiadau symud y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r cynllun Parod at y Dyfodol yn integreiddio iechyd meddwl, cyfranogiad ecolegol a lles rhai o'r bobl sy'n wynebu'r angen mwyaf: staff a chleifion y GIG.

Mae bod yn rhan o'r cynllun yn y gobaith o'i ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer prosiectau tebyg ledled Cymru'n destun cyffro mawr i ni.”

Ychwanegodd Mark McKenna, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Down to Earth:

“Nawr – yn fwy nag erioed – mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o gyflwyno gofal iechyd mewn ffordd sydd o fudd i aelodau o staff y GIG sy'n rhoi gofal iechyd, yn ogystal â chleifion. Mae isadeiledd gwyrdd a'r amgylchedd naturiol yn ategu dull cynaliadwy hirdymor o ymdrin â gofal iechyd er lles pobl ac er lles y blaned.

Bydd y gwaith ymchwil hwn gan Brifysgol Abertawe'n cynnig dealltwriaeth allweddol o'r modd mwyaf effeithiol o lwyddo yn hyn o beth.”

Ymchwil Abertawe:

Rhannu'r stori