Mae tymereddau byd-eang uwch yn helpu rhywogaethau goresgynnol i sefydlu eu hunain mewn ecosystemau, yn ôl gwaith ymchwil a arweinir gan fiowyddonydd o Brifysgol Abertawe.

Mae tymereddau byd-eang uwch yn helpu rhywogaethau goresgynnol i sefydlu eu hunain mewn ecosystemau, yn ôl gwaith ymchwil a arweinir gan fiowyddonydd o Brifysgol Abertawe.

Mae'r astudiaeth, a gyhoeddir gan y Gymdeithas Frenhinol, yn rhoi cipolwg ar effeithiau cyfunol tebyg mewnlifiadau rhywogaethau, sydd bellach yn fwy cyffredin, a chynhesu byd-eang.

Mae cynhesu'r hinsawdd a mewnlifiadau biolegol yn arwain at golli rhywogaethau. Maent hefyd yn newid strwythur ecosystemau a ffyrdd rhywogaethau o ryngweithio â'i gilydd.

Er bod ymchwil helaeth eisoes wedi cael ei gwneud i'r ffordd y mae newid yn yr hinsawdd a mewnlifiadau'n effeithio ar rywogaethau ac ecosystemau, ychydig iawn sy'n hysbys am eu heffaith gyfunol pan fyddant yn gweithredu ar yr un pryd.

Mae'r astudiaeth newydd yn gam pwysig ymlaen yn hyn o beth. Gwnaed y gwaith, a ariannwyd drwy raglen Horizon y DU, gan Dr Miguel Lurgi o'r Coleg Gwyddoniaeth mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Institut National de la Recherche Agronomique (INRAE) a Le Centre National pour la Recherche Scientifique (CNRS) yn Ffrainc.

Gwnaeth y tîm ddefnyddio efelychiadau mathemategol er mwyn ymchwilio i’r ffordd y mae'r tymheredd yn dylanwadu ar fewnlifiadau i weoedd bwyd cymhleth sy'n cynnwys 30 o rywogaethau. Rhoddwyd sylw arbennig i effeithiau cyfunol – neu synergyddol.

Y nod oedd cynnig model damcaniaethol ar gyfer y ffordd y mae cymunedau ecolegol yn debygol o ymateb i effeithiau cyfunol cynhesu a mewnlifiadau.

Roedd y model yn cynnwys ffactorau megis cyfraddau atgenhedlu a marwolaethau, maint cyrff cyfartalog rhywogaethau, a chysylltiadau rhwng rhywogaethau, megis ysglyfaethwyr yn ymosod ar ysglyfaethau.

Gwnaeth aelodau'r tîm efelychu'r hyn sy'n digwydd pan fo rhywogaeth estron yn cyrraedd ecosystem. Yna gwnaethant gynnal yr efelychiad ymhen amser, gan ddefnyddio 40 o dymereddau gwahanol o 0 i 40 gradd Celsius. Roedd hyn yn rhoi cyfle iddynt fodelu'r effeithiau cyfunol ar yr ecosystem pan geir cynnydd yn y tymheredd a phan gyflwynir y rhywogaethau newydd.

Gwnaethant ddadansoddi canlyniadau'r efelychiadau er mwyn asesu effeithiau’r tymheredd ar gyfansoddiad y we fwyd cyn y mewnlifiadau, llwyddiant y mewnlifiadau a'u heffeithiau ar strwythur a sefydlogrwydd y gymuned.

Daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

• Roedd tymereddau cynhesach yn newid strwythur a dynameg cymunedau, gan hwyluso mewnlifiadau.
• Yn bennaf, roedd tymereddau cynhesach yn dwysáu effeithiau mewnlifiadau ar gymunedau o'u cymharu â rhai oerach.
• Yn bennaf, mae effeithiau'r tymheredd ar fewnlifiadau yn anuniongyrchol ac yn deillio o newidiadau i strwythur a sefydlogrwydd cymunedau.

Meddai Dr Miguel Lurgi o Brifysgol Abertawe, y prif ymchwilydd:

“Mae mewnlifiadau a chynhesu'n ysgogi ein hecosystemau i newid yn sylweddol, ac mae'n hanfodol ein bod yn deall eu heffeithiau cyfunol.

Ein hastudiaeth yw'r cam cyntaf yn y cyfeiriad hwnnw, gan ddadansoddi effeithiau synergyddol mewnlifiadau a'r tymheredd ar gymunedau.

Ar y cyfan, gwelsom fod mewnlifiadau a'r tymheredd yn cydweithio i gynyddu cyflymder colli rhywogaethau, gan greu rhwydweithiau llai sy'n fwy cysylltiedig.

Mae Covid-19 wedi dangos i ni fod modelu mathemategol wedi bod yn hanfodol wrth ddeall ymlediad ac effaith debygol y feirws.

Yn yr un modd, mae'n gwaith yn cynnig disgwyliadau damcaniaethol ar gyfer ymateb tebygol cymunedau ecolegol i gyd-effeithiau mewnlifiadau a chynhesu.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn Proceedings of the Royal Society B.

 

Rhannu'r stori