Cyfrifiadur: Mae safon cwrs MSc Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch wedi cael ei hardystio’n swyddogol gan gorff arbenigol mwyaf blaenllaw'r maes yn y DU

Mae safon cwrs MSc Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch wedi cael ei hardystio’n swyddogol gan gorff arbenigol mwyaf blaenllaw'r maes yn y DU, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.

Cwrs MSc Abertawe yw'r un cyntaf yng Nghymru i gael ei ardystio'n llawn ac yn gyflawn gan yr NCSC ac mae'n un o nifer bach o gyrsiau ledled y DU sydd wedi cyrraedd y safon hon.

Mae'r NCSC yn cynnal y rhaglen ardystiedig i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ar y cyrsiau amrywiol sydd ar gael mewn prifysgolion yn y DU ac i helpu i sicrhau bod seiberddiogelwch yn cael ei addysgu i safon uchel ym maes addysg uwch.

Mae cwrs MSc Abertawe'n cwmpasu materion technoleg fodern hollbwysig, o ddiogelwch a phreifatrwydd data personol i seiberderfysgaeth, seiberdroseddu a diogelwch dyfeisiau symudol.

Mae'n defnyddio cyfleusterau Ffowndri Gyfrifiadol newydd sbon y Brifysgol, sy'n werth £32.5m, gan gynnwys labordy gweledigaeth a phrofion biometrig, labordy theori, labordy creu, labordy seiberddiogelwch/rhwydweithio, labordy defnyddwyr a chyfleuster delweddu.

Meddai Dr Bertie Muller, Uwch-ddarlithydd yn Adran Cyfrifiadureg a Chyfarwyddwr Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir Prifysgol Abertawe:

“Mae pwysigrwydd cynyddol seiberddiogelwch ym mhob agwedd ar fywyd yn galw am arbenigwyr medrus sy'n ystyried y materion cysylltiedig mewn modd cyfannol. Felly, rydym wedi creu gradd meistr gynhwysfawr sy'n cael ei llywio gan y diwydiant.

“Rydym yn falch mai ni yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru sy'n cynnig rhaglen MSc mewn seiberddiogelwch sydd wedi cael ei hardystio'n llawn ac yn gyflawn gan yr NCSC. Mae hyn yn tanlinellu ein llwyddiant wrth gynnig addysg a chyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio maes diogelwch, ymgymryd ag arbrofion i fesur diogelwch rhwydweithiau a dyfeisiau symudol, ac i ymchwilio i fygythiadau yng nghyd-destun y rhyngrwyd pethau a deallusrwydd artiffisial modern.”

Meddai Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynyddu Seiberddiogelwch yr NCSC:

“Rwy'n falch bod rhaglen MSc Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch bellach wedi cael ei hardystio gan yr NCSC. Bydd cynnig gradd ardystiedig yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch dilyn gyrfa mewn seiberddiogelwch yn y dyfodol. Gellir tawelu meddyliau cyflogwyr y bydd y graddedigion wedi cael eu haddysgu'n dda ac y bydd ganddynt sgiliau gwerthfawr yn y diwydiant.”

Mwy o wybodaeth am y cwrs MSc mewn Seiberddiogelwch yn Abertawe

 

Rhannu'r stori