Llun o Bethany Kelly ar ei diwrnod graddio gyda’i dwy ferch, Everley (ar y chwith) ac Isla (ar y dde).

Mae mam sengl i ddau blentyn ifanc sydd wedi bod yn nyrs ers 14 o flynyddoedd wedi hyrwyddo ei gyrfa drwy gwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â gweithio ar y rheng flaen.

Roedd Bethany Kelly, 34, o Southampton, wedi gweithio fel nyrs sy'n arbenigo mewn diabetes ers sawl blwyddyn.

Ar ôl cael profiad personol o'r cyflwr, gwnaeth Bethany gais llwyddiannus i astudio cwrs MSc rhan-amser mewn Ymarfer Diabetes yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

“Pan oeddwn yn feichiog am y tro cyntaf, cefais ddiagnosis fy mod yn dioddef o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd. Felly, mae gennyf brofiad uniongyrchol o'r ffordd y gall effeithio ar fywydau pobl,” meddai Bethany.

“Roeddwn eisoes yn chwilio am her newydd, a phan ofynnwyd i mi gynnal clinigau adolygu diabetes ar ôl i mi ddychwelyd o gyfnod mamolaeth, roeddwn yn gwybod ei fod yn gyfle ardderchog i wella gofal diabetes a bod yn ymarferydd clinigol arbenigol.

“Rhoddwyd ysgoloriaeth lawn i mi, neu ni fyddwn wedi gallu fforddio'r cwrs.”

Dechreuodd Bethany ei gradd yn 2019 ac roedd yn rhaid iddi roi ei sgiliau rheoli amser ar waith er mwyn cydbwyso ei hastudiaethau â gweithio'n amser llawn a gofalu am ei dwy ferch.

“Fel pob mam o bosib, roedd euogrwydd yn broblem i mi,” meddai Bethany. “Roeddwn yn ffodus bod ymddygiad fy merched yn dda ac yn ystyriol.

“Roeddwn yn gweithio dros y penwythnos a chyda'r hwyr gan amlaf, ac oherwydd hynny collais lawer o amser gyda hwy.

“Yn aml, byddent yn gofyn am gael mynd i'r parc, a byddai'n rhaid i mi ofyn am un funud arall wrth i mi deipio paragraff olaf traethawd.

“Gofynnodd fy merch ifancaf, a oedd yn chwech oed ar y pryd, a fyddwn yn cael cap a gŵn fel yn High School Musical. Felly, bob tro y collais rywbeth, neu y bu'n rhaid iddynt aros wrth i mi orffen fy ngwaith, byddwn yn addo y byddent yn cael gwisgo'r cap a'r gŵn ar ôl i mi raddio. Rwyf mor falch fy mod wedi llwyddo i gadw'r addewid hwnnw.”

Yn anffodus, difethwyd yr amserlen newydd hon gan COVID-19.

“Pan ddechreuodd y pandemig, cefais ddiwrnodau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y llwyth gwaith cynyddol.

“Y driniaeth am COVID-19 yw steroidau, sy'n cynyddu nifer y diagnosisau o ddiabetes math 2 yn ogystal ag achosion o hyperglycaemia,” meddai Bethany.

“Roedd y tîm Ymarfer Diabetes yn wych, gan ymaddasu i roi cyfle i mi barhau â'm gradd.

“Heblaw am waith caled arweinwyr a darlithwyr y cwrs, ni fyddwn wedi gallu llwyddo.

“Roedd yr amser ychwanegol hwnnw'n hanfodol yn ystod y don gyntaf, ond cyn bo hir roeddwn yn creu lle i'm hastudiaethau lle bynnag y gallwn fel rhan o'm trefn normal newydd.

“Yn ogystal, bu'n rhaid ymdopi ag addysgu'r plant gartref, ac yn aml byddem yn eistedd wrth y bwrdd gyda'n gilydd yn gwneud ein gwaith.”

Gyda'r polisïau cenedlaethol yn newid o hyd, roedd Bethany'n gwybod bod llawer o gleifion yn cael problemau, yn drysu ac yn teimlo'n ofidus. Er mwyn lliniaru rhai o'u hofnau, cyflwynodd Bethany a thîm llawn cydweithwyr gofal iechyd proffesiynol Team Diabetes 101.

“Roeddem am gyflwyno sylfaen ddiogel i dawelu meddyliau pobl sy'n dioddef o ddiabetes, yn ogystal â rhoi mynediad at adnoddau dibynadwy a chymorth emosiynol iddynt,” meddai Bethany.

“Llwyddodd y cyfrif cyfryngau cymdeithasol i ennill dwy wobr genedlaethol, a gwnaethom gyhoeddi dwy erthygl mewn cyfnodolion diabetes blaenllaw hefyd.”

Mae Bethany hefyd wedi llwyddo i greu amser i ymgymryd â rôl cyd-gadeirydd Fforwm DSN (Nyrsys sy'n Arbenigo mewn Diabetes) y DU.

“Mae Fforwm DSN y DU yn ceisio rhannu arfer gorau drwy ddarparu rhwydwaith cefnogol ar gyfer nyrsys sy'n arbenigo mewn diabetes ledled y DU.

“Nod ein gwefan yw helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ymdrin â'r swm helaeth o adnoddau ar-lein o ran nyrsio diabetes a gofal diabetes sy'n newid o hyd.”

Yn fwyaf diweddar, dechreuodd Bethany swydd newydd fel Prif Nyrs Gymunedol sy'n Arbenigo mewn Diabetes yn Wiltshire, yn ogystal â chwblhau'r cylch drwy ymuno â rhaglen Ymarfer Diabetes Prifysgol Abertawe fel arweinydd ei modiwl yn y gymuned.

Ar ei rôl newydd, meddai Bethany: “Mae gwaith y tîm i alluogi nyrsys i gael gafael ar addysg bellach yn syfrdanol, ac yn fy marn innau ni fyddai'r un brifysgol arall yn cymryd cynifer o gamau i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at addysg uwch.

“Rwy'n falch o gael ymuno â'r rhaglen, gan helpu myfyrwyr i gael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ofalu am bobl sy'n byw gyda diabetes yn y gymuned.”

Meddai Dr Rebecca Thomas, Cyd-gyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Ymarfer Diabetes: “Mae Bethany wedi gweithio'n eithriadol o galed. Mae cwblhau pob tasg wrth gydbwyso cyfnod hynod heriol yn y gwaith wedi bod yn destun balchder mawr iddi.

“Mae wedi bod yn bleser ei gwylio'n tyfu yn ei rolau a thrwy gydol ei chwrs gradd, ac rwy'n falch y bydd hi'n ymuno â'r rhaglen er mwyn helpu myfyrwyr y dyfodol i wneud yr un peth.”

Rhannu'r stori