Arolwg i archwilio iechyd a lles penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain yn ystod Covid-19

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain i lenwi arolwg ynglŷn â’u profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.

Wedi’i gefnogi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, ac Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu ymchwilwyr i ddarparu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth am heriau ac effeithiau pandemig Covid-19 ar staff arweinyddiaeth mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae’r arolwg yn ceisio archwilio effaith y pandemig ar iechyd penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain, eu sefyllfa waith, a’r gofynion a osodwyd arnynt.

Bydd Prifysgol Abertawe yn gweithio ochr yn ochr â thimau ym Mhrifysgol Newcastle, Prifysgol South Bank Llundain a Phrifysgol Caledonian Glasgow i gasglu a chymharu data ledled y Deyrnas Unedig.

Er bod gwaith ymchwil wedi cael ei gynnal yng Nghymru sy’n archwilio effaith cau ysgolion ar ddisgyblion ac athrawon, mae bwlch yn y dystiolaeth sy’n archwilio effeithiau’r pandemig ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain mewn ysgolion.

Dywedodd Dr Emily Marchant, Ymchwilydd Arweiniol yr astudiaeth: “Mae’r pandemig wedi creu aflonyddwch digynsail ym myd addysg. Bu’n rhaid i benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain addasu amgylcheddau dysgu ac arferion gwaith yn gyflym – mae hyn wedi gofyn am wneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a rheolaeth i fynd i’r afael â’r heriau niferus a wynebwyd.

“Byddwn yn rhannu canlyniadau ein harolwg gyda chyfranogwyr, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am bolisïau ac arferion, i helpu i ddatblygu dealltwriaeth well o’r heriau a wynebwyd, y prif feysydd pryder a’r hyn y gellir ei wneud i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r timau ymchwil yn y Deyrnas Unedig yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o fwy na 100 o ymchwilwyr o 50 o wledydd wedi’u lleoli ar bum cyfandir. Mae’r Rhwydwaith COVID-HL yn ddull cydweithredol sydd wedi’i seilio ar y syniad o gynhyrchu gwybodaeth/tystiolaeth ar y cyd a’i dosbarthu’n agored.

Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth: “Mae bod yn rhan o’r Rhwydwaith COVID-HL yn caniatáu i ni gyfrannu a lleoli ein hunain yn y gymuned ymchwil ryngwladol – gan gryfhau cyfranogiad Cymru mewn gwaith ymchwil iechyd a lles byd-eang a’i heffaith arno.

“Bydd y Rhwydwaith yn caniatáu i ni gael mynediad at ddata rhyngwladol cymaradwy a’r cyfle i fesur a dehongli nodweddion tebyg a gwahanol yn y maes ymchwil hwn o bob rhan o’r byd.”

Gellir llenwi’r arolwg fel y mae neu fel dau arolwg byr. Llenwch yr arolwg yma.

Rhannu'r stori