Cannabis

Norwy, Seland Newydd, Portiwgal, y Deyrnas Unedig ac Awstralia yw'r pum gwlad fwyaf blaenllaw o ran polisïau cyffuriau trugarog sy'n seiliedig ar iechyd, yn ôl y Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPI) cyntaf, a gyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2021 gan y Consortiwm Polisi Cyffuriau Rhyngwladol.

Mae'r Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang yn adnodd atebolrwydd unigryw sy'n dogfennu, yn mesur ac yn cymharu polisïau cyffuriau cenedlaethol. Mae'r rhoi sgôr rhwng 0 a 100 i bob gwlad, lle mae 100 yn golygu bod craidd dethol o bolisïau cyffuriau a'r modd y cânt eu rhoi ar waith yn cyd-fynd yn llawn ag argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol, iechyd a datblygu, yn unol ag ymagwedd gyffredin system y Cenhedloedd Unedig ynghylch cyffuriau. Mae'r GDPI cyntaf yn gwerthuso perfformiad 30 o wledydd ym mhob rhan o'r byd, ar gyfer y flwyddyn 2020.

Mae'r mynegai'n cynnwys 75 o ddangosyddion ar draws pum agwedd: 

  • Absenoldeb dedfrydu ac ymatebion eithafol ynghylch cyffuriau, megis y gosb eithaf.
  • Cymesuredd ymatebion cyfiawnder troseddol i gyffuriau.
  • Cyllido ymyriadau i leihau niwed, eu hargaeledd a'u cwmpas.
  • Argaeledd sylweddau a reolir yn rhyngwladol, at ddibenion lleddfu poen.
  • Datblygu.

Mae'r GDPI yn brosiect sy’n cael ei arwain gan y Consortiwm Lleihau Niwed, partneriaeth fyd-eang rhwng rhwydweithiau cymunedol a chymdeithas sifil sy'n ceisio herio'r ‘rhyfel ar gyffuriau’ yn fyd-eang. Datblygwyd methodoleg y mynegai dan arweiniad yr Arsyllfa ar Bolisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r GDPO, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn ganolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar effaith, a'i nod yw hyrwyddo polisi cyffuriau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hawliau dynol drwy gofnodi, monitro a dadansoddi datblygiadau polisi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn modd trylwyr. Datblygwyd y mynegai dan arweiniad yr Athro David Bewley-Taylor, Cyfarwyddwr y GDPO, a Dr Matthew Wall, Aelod Cysylltiol o'r GDPO.

Y pum gwlad sydd ar waelod y mynegai yw: Brasil, Uganda, Indonesia, Kenya a Mecsico.

Dyma’r prif wersi sy'n deillio o'r adroddiad:

1. Mae mynychder byd-eang polisïau cyffuriau sy'n seiliedig ar orthrwm a chosb wedi arwain at sgorau isel yn gyffredinol. Y sgôr ganolrifol oedd 48/100 yn unig ac ni lwyddodd y wlad ar y brig i sgorio mwy na 74/100.

2. Mae safonau a disgwyliadau arbenigwyr cymdeithas sifil ynghylch rhoi polisïau cyffuriau ar waith yn amrywio o wlad i wlad.

3. Mae anghydraddoldeb wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn polisïau cyffuriau byd-eang, wrth i'r pum gwlad ar y brig sgorio deirgwaith yn fwy na'r pum gwlad ar y gwaelod. Mae hyn yn deillio'n rhannol o etifeddiaeth drefedigaethol ymagwedd y ‘rhyfel ar gyffuriau’.

4. Mae polisïau cyffuriau yn gymhleth yn eu hanfod: dim ond drwy edrych ar draws a'r tu mewn i bob agwedd y gellir deall perfformiad gwlad yn y mynegai yn llawn.

5. Mae polisïau cyffuriau'n effeithio'n anghymesur ar bobl sydd ar yr ymylon oherwydd eu rhywedd, eu hethnigrwydd, eu tueddfryd rhywiol a'u statws economaidd-gymdeithasol.

6. Mae gwahaniaethau mawr rhwng polisïau gwladwriaethau a sut cânt eu rhoi ar waith ar lawr gwlad.

7. Heb lawer o eithriadau, prin iawn yw cyfranogiad ystyrlon cymdeithas sifil a'r cymunedau yr effeithir arnynt yn y prosesau o lunio polisïau cyffuriau.

Meddai Dr Matthew Wall, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Abertawe ac Aelod Cysylltiol o'r GDPO, a arweiniodd y gwaith o ddatblygu methodoleg y mynegai: “Ochr yn ochr â dadansoddi cyfreithiau a data presennol gwladwriaethau, mae'r mynegai'n ymgorffori canfyddiadau 371 o arbenigwyr o gymdeithas sifil ynghylch sut caiff polisïau cyffuriau eu rhoi ar waith mewn 30 o wledydd ledled y byd. Mae'r dull pwysoli a ddefnyddir i lywio'r mynegai yn casglu ymatebion o lu o arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw o ran dadansoddi polisïau cyffuriau. Dyma gyfraniad allweddol y mynegai; mae'n casglu swm anferth o wybodaeth er mwyn llunio data tryloyw y gellir ei gymharu sy'n canolbwyntio ar brofiadau ymarferol pobl o bolisïau cyffuriau.”

Meddai'r Athro David Bewley-Taylor, Cyfarwyddwr y GDPO: “Fel y mynegai cyfansawdd cyntaf erioed ym maes polisïau cyffuriau, ein gobaith yw y bydd y GDPI yn sbarduno trafodaethau adeiladol, yn annog llywodraethau i werthuso polisïau mewn modd cynnil ond cyfannol, ac yn arwain yn y pen draw at ddefnydd helaeth o ymagweddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cyd-fynd ag argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar iechyd, hawliau dynol a datblygu.”

Rhannu'r stori