Hillary Rodham Clinton

Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton am y tro cyntaf ym mis Tachwedd.

Wedi’i chynnull gan Hillary Rodham Clinton, bydd yr Uwchgynhadledd yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, meddylwyr sy’n ysbrydoli, a phobl adnabyddus ynghyd i drafod rhai o’r materion mwyaf dybryd rydym yn eu hwynebu, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, iechyd byd-eang, harneisio technoleg i wneud gwahaniaeth er gwell, a chyfiawnder cymdeithasol. Eleni, thema’r Uwchgynhadledd yw partneriaethau ar gyfer byd ar ôl Covid.

Cynhelir yr Uwchgynhadledd yn rhithwir rhwng 8 a 10 Tachwedd 2021. Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys arweinwyr byd-eang presennol a blaenorol yn ogystal ag arweinwyr rhyngwladol uchel eu bri o ddiwydiant, gwleidyddiaeth a sefydliadau anllywodraethol.

Caiff yr holl drafodaethau a’r paneli eu ffrydio’n fyw a bydd mynediad am ddim. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad. 

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:

“Dyma’r adeg gywir i siarad am y ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd drwy ddefnyddio’r hyn y gwnaethom ei ddysgu yn ystod y pandemig i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu fel cymuned fyd-eang. Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, mae Prifysgol Abertawe wedi cynnig atebion arloesol a chreadigol i gefnogi ein cymuned trwy’r pandemig a thrwy heriau eraill. Gobeithiwn y bydd yr Uwchgynhadledd hon yn harneisio’r ysbryd hwnnw ac yn darparu llwyfan byd-eang i ddod â phobl a mudiadau ynghyd o bob cwr o’r byd er mwyn ystyried sut y gallwn ni harneisio nerth ein partneriaethau i wneud gwahaniaeth go iawn lle y mae ei angen fwyaf. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Clinton i greu sgyrsiau ag ysgogwyr newid byd-eang llawn ysbrydoliaeth.”

Cyhoeddir y sesiynau a’r siaradwyr dros yr wythnosau nesaf a chyhoeddir yr amserlen lawn ym mis Hydref.

Rhannu'r stori