Siambr y Senedd

Mae gwefan ryngweithiol newydd wedi cael ei lansio er mwyn helpu pleidleiswyr yn yr etholiad i'r Senedd sydd ar y gweill i gymharu eu blaenoriaethau o ran polisïau â safbwyntiau pleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol.

Mae'r wefan am ddim myVoteChoice yn rhan o brosiect cydweithredol a arweinir yng Nghymru gan Dr Matthew Wall o Brifysgol Abertawe, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Oxford Brookes, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Surrey a Phrifysgol Zurich.

Mae'r wefan ddwyieithog yn rhoi cyfle i bleidleiswyr yng Nghymru archwilio sut mae eu barn am faterion allweddol yr etholiad yn cyd-fynd â safbwyntiau pleidiau ac ymgeiswyr drwy gyfres o 28 o gwestiynau, a luniwyd ar y cyd â bwrdd cynghori llawn arbenigwyr ar wleidyddiaeth Cymru. 

Yna mae'n cyflwyno canlyniadau wedi'u teilwra i'r unigolyn mewn sawl arddangosiad graffigol sy'n rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr, gan gynnwys pa mor agos y mae eu blaenoriaethau o ran polisïau at bleidiau ac ymgeiswyr yn eu hetholaeth. Gallant archwilio'r canlyniadau hyn fesul cwestiwn. Mae'r wefan hefyd yn rhoi defnyddwyr ar fap gwleidyddol, gan ddangos pa mor agos y maent at bleidiau ac ymgeiswyr ar raddfeydd ideolegol.

Mae myVoteChoice yn brosiect nid er elw a ariennir gan yr Academi Brydeinig a chynllun Grantiau Ymchwil Bach Leverhulme. Nid oes dim cysylltiad rhwng y prosiect ac unrhyw blaid na sefydliad gwleidyddol.

Meddai Dr Matthew Wall, Athro Cysylltiol Gwleidyddiaeth yn Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol Prifysgol Abertawe:

“Mae'r syniad am myVoteChoice yn ddigon syml. Mae'n gofyn 28 o gwestiynau am bolisïau sydd wraidd y drafodaeth wleidyddol yng Nghymru. Mae ein tîm ymchwil wedi cael atebion i'r cwestiynau hyn gan y prif bleidiau yng Nghymru, yn ogystal â mwy nag 85 o ymgeiswyr unigol. Pan fydd pleidleiswyr yn mynd i'r wefan, bydd hi'n darparu cymhariaeth unigryw a fydd yn dangos pa mor agos y mae eu barn yn cyd-fynd â safbwyntiau polisi'r pleidiau yn ogystal â'r ymgeiswyr yn eu hetholaeth.

“Mae'r wefan yn canolbwyntio ar bynciau sydd wrth wraidd yr etholiad i'r Senedd, gan gynnwys iechyd, polisïau Covid-19, addysg, trafnidiaeth, economi Cymru, a'r amgylchedd – yn ogystal â datganoli ei hun.”

Mae'r wefan hon yn annog pobl i bleidleisio drwy sicrhau eu bod yn ddigon hyderus i ddeall y cysylltiad rhwng eu pleidlais a'r dadleuon allweddol sy'n effeithio ar eu bywyd beunyddiol, yn ôl Dr Wall.

“Gall gwleidyddiaeth ddychryn pobl a'u drysu ond nid oes modd i ddefnyddwyr y wefan hon droi at yr esgus hwnnw. Gall unrhyw un ateb y 28 o gwestiynau sydd yma a phenderfynu ar eu hagwedd at brif bynciau'r etholiad. Cynlluniwyd y prosiect hwn yn benodol ar gyfer pleidleiswyr newydd – dyma'r tro cyntaf i bobl ifanc 16 oed ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yma yng Nghymru. Ei nod yw ysbrydoli pobl i feddwl yn fwy dwys am wleidyddiaeth a pholisïau ac i fod yn ddigon hyderus i fwrw eu pleidlais ar 6 Mai.”

Ewch i wefan myVoteChoice. 

Rhannu'r stori