Gwnaeth y tîm recriwtio 250 o aelodau'r cyhoedd a oedd eisoes yn meddu ar gerbydau trydan ac a oedd yn defnyddio mannau a meddalwedd gwefru zappi myenergi er mwyn eu helpu i'w gwefru'n fwy effeithlon.

Gwnaeth y tîm recriwtio 250 o aelodau'r cyhoedd a oedd eisoes yn meddu ar gerbydau trydan ac a oedd yn defnyddio mannau a meddalwedd gwefru zappi myenergi (chwith) er mwyn eu helpu i'w gwefru'n fwy effeithlon.

Gallai gyrwyr cerbydau trydan arbed £110 bob blwyddyn ar gyfartaledd – a lleihau eu hôl troed carbon 20% – drwy ddefnyddio technoleg gwefru clyfar i bweru eu ceir ar yr adegau gorau posib, yn ôl adroddiad gan dîm ymchwil sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae gwefru clyfar yn helpu i wasgaru'r galw am drydan er mwyn osgoi gorlwytho'r Grid Cenedlaethol. Dyma bwnc o bwys o ystyried y twf anferth yn nifer y cerbydau trydan. Rhagwelir y bydd hyd at 11 miliwn ar ffyrdd Prydain erbyn 2030.

Gall pobl gael trydan rhatach eisoes drwy wefru ar adegau penodol, fel arfer yn oriau mân y bore. Ond gallai gwefru clyfar fynd ymhellach na hyn. Er enghraifft, gallai olygu gwefru pan fo tywydd gwyntog yn golygu bod gormod o ynni gwynt yn cael ei gynhyrchu, neu gydgysylltu eich anghenion gwefru'n awtomatig â'ch cymdogion.

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ymchwil gan brosiect FRED (Cyflwyno Ynni sy'n Ymateb yn Hyblyg). Roedd y prosiect, a arweinir gan Evergreen Smart Power, hefyd yn cynnwys arbenigwyr ynni Prifysgol Abertawe o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, mewn cydweithrediad â myenergi, GenGame, ac Energy Systems Catapult.

Gwnaeth y tîm recriwtio 250 o aelodau'r cyhoedd a oedd eisoes yn meddu ar gerbydau trydan ac a oedd yn defnyddio mannau a meddalwedd gwefru zappi myenergi er mwyn eu helpu i'w gwefru'n fwy effeithlon.

Drwy gydol y prosiect, bu Evergreen yn rheoli prosesau gwefru cerbydau trydan cyfranogwyr FRED drwy ddefnyddio platfform meddalwedd gwefru clyfar y cwmni. Roedd y platfform yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i newid amserau gwefru er mwyn mwyafu effeithlonrwydd a lleiafu costau. Gwaeth cyfranogwyr gefnogi'r prosiect drwy roi adborth ynghylch sut roedd gwefru clyfar wedi effeithio ar eu profiad gyrru.

Daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad bod:

• Gwefru clyfar yn lleihau cost taliadau amrywiol sy'n rhan o bris cyffredinol ynni i ddefnyddwyr

• Mae hyn yn golygu arbedion cyffredinol gwerth £110 bob blwyddyn i yrrwr cerbyd trydan arferol – gydag arbedion hyd yn oed yn fwy os ydych yn gyrru, ac felly'n ailwefru, yn fwy na'r cyfartaledd

• Mae ffactorau amrywiol yn gyfrifol am yr arbedion hyn – er enghraifft, osgoi adegau pan fo taliadau rhwydwaith neu brisiau cyfanwerthu ynni'n uchel, a newid cwsmeriaid i daliadau fesul hanner awr yn hytrach na fesul awr

Yn ogystal, daethant i'r casgliadau canlynol:

• Gellid arbed hyd at 45% yn fwy drwy gynnig cynlluniau cymhelliant gwell

• Mae gwefru clyfar yn lleihau ôl troed carbon gwefru car dros 20%, gan gynnig cymhelliant amgylcheddol cryf.

Meddai Peter Bullock o Evergreen:

“Dangosodd ein gwaith ymchwil y gall gwefru clyfar drwy ddefnyddio'r platfform wneud gwahaniaeth mawr, hyd yn oed pan fo pobl eisoes yn gwefru'n effeithlon. Mae'n lleihau'r costau a'r carbon at ddibenion gyrru rhatach a glanach.

Yn ein system ynni gwyrdd sy'n datblygu, gall yr ynni rydym yn ei gynhyrchu – er enghraifft, drwy'r gwynt a'r haul – fod yn newidiol. Yn ffodus, drwy geir trydan, mae'n hawdd bod yn hyblyg o ran yr adegau rydym yn defnyddio ynni. Yn hyn o beth y mae gwefru clyfar yn hanfodol, gan ein helpu i greu system ynni carbon isel ac effeithlon.”

Meddai Mark Spratt o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe:

“Aeth SPECIFIC ati i greu'r adeiladau gweithredol ar Gampws y Bae er mwyn dangos sut gall adeiladau sy'n cynhyrchu ac yn storio trydan gael effaith gadarnhaol ar y grid drwy reoli eu hynni'n ddeallus. Bu'r adeiladau hyn, ochr yn ochr â'n cerbydlu trydan, yn blatfform delfrydol i brofi strategaethau gwefru clyfar prosiect FRED.

Mae'r arbedion ariannol ac o ran carbon a ddangoswyd gan brosiect FRED yn cyfiawnhau bod angen adeiladau gweithredol ar ein trywydd i gyrraedd y targed sero-net.”

Bu'r prosiect yn bosib drwy gymorth Cronfa Entrepreneuriaid Ynni'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Bu cyfraniad SPECIFIC yn bosib oherwydd cyllid gan Innovate UK a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Adroddiad FRED

Dyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori