Gwobrau Dewi Sant

Mae cysylltiad rhwng Prifysgol Abertawe a thri enwebiad ar restr fer Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru, eleni.

Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir yng Nghymru a thramor.

Bob blwyddyn, ceir naw gwobr Dewi Sant a'r cyhoedd sy'n enwebu wyth ohonynt. Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a'i gynghorwyr sy'n penderfynu ar y rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer a'r enillwyr.

Mae dau dîm o Brifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac mae aelod o staff wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Ysbryd y Gymuned:

Enwebiadau ar gyfer y wobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

1 Hylif diheintio dwylo

Ar ddechrau'r pandemig Coronafeirws ym mis Mawrth 2020, roedd prinder hylif diheintio dwylo. Daeth tîm bach o gydweithwyr o adrannau gwahanol ym Mhrifysgol Abertawe at ei gilydd i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a fyddai’n cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd. O fewn saith diwrnod, darparwyd y swp cyntaf i ysbyty lleol.

Tyfodd y prosiect yn gyflym ac roedd angen cefnogaeth 30 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r brifysgol i’w gynnal. Roedd y gwirfoddolwyr hefyd yn cyflawni dyletswyddau dyddiol eu swyddi. Cynhyrchodd y tîm gyfanswm o 34,000 litr o hylif diheintio dwylo i’w ddarparu i’r GIG, cartrefi gofal a sefydliadau’r sector cyhoeddus.

2 Glanhau ambiwlansys ar frys yn ystod Covid-19

Roedd tîm o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ymysg y prosiectau a ddewiswyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r Fenter Ymchwil Busnesau Bach i brofi ffyrdd newydd o lanhau ambiwlansys ar frys. Mae dull y tîm o Abertawe yn ymwneud â rhyddhau nwy'n sydyn.

Roedd y dull glanhau blaenorol yn cymryd hyd at ddwy awr ac roedd yn rhaid defnyddio canolfannau glanhau arbenigol ymhell o'r orsaf ambiwlansys neu'r ysbyty weithiau. Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a chan weithio gyda Chanolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach, datblygwyd her i weithio gyda diwydiant, y byd academaidd, y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Innovate UK i ddod o hyd i atebion newydd i wella'r broses hon.

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y Gymuned

Mahaboob Basha

Mae Dr Mahaboob Basha yn gweithio i'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi bod yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol a’r gymuned Fwslimaidd yn Abertawe ers blynyddoedd lawer ac mae’n ymgyrchydd brwd dros bobl mewn angen – gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, myfyrwyr rhyngwladol a newydd-ddyfodiaid eraill i Abertawe.

Trefnodd hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd i blant a phobl ifanc, gan gydweithio â meddygon teulu ac aelodau eraill o staff meddygol. Yn ystod y pandemig, mae ef wedi gwirfoddoli mewn cartrefi gofal a phreswyl lleol, gan ddosbarthu mwy na 1,400 o bresgripsiynau i bobl a warchodir.

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Dewi Sant ar 24 Mawrth.

Rhannu'r stori