Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

O’r chwith: Ed Lester-Card, Dr Chedly Tizaoui, Anthony Lewis a Dr Karen Perkins, o’r Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

O’r chwith: Ed Lester-Card, Dr Chedly Tizaoui, Anthony Lewis a Dr Karen Perkins, o’r Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i ennill cyllid i leihau’r cyfnod o amser sydd ei angen i ddiheintio ambiwlansys ar ôl iddynt gludo claf yr amheuir ei fod yn dioddef o covid-19.

Mae myfyrwyr y brifysgol yn helpu i gwtogi’r amser sydd ei angen i lanhau ambiwlans o 45 munud i lai na 20 munud.

Dan arweiniad Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr her oedd cwtogi’r amser sydd ei angen i lanhau cerbyd yn drylwyr a’i gael yn ôl ar yr heol.

Wedi’i dyfeisio a’i datblygu mewn llai na phythefnos, roedd diddordeb aruthrol yn yr her, gyda dros 200 o systemau yn cael eu cynnig o bob cwr o’r DU. Roedd Prifysgol Abertawe ymysg y deuddeg cais ar y brig i ennill cyllid a chymorth, sy’n brawf o’r dyfeisgarwch a’r mentergarwch sy’n codi o’r argyfwng.

Bydd system Prifysgol Abertawe yn profi triniaeth newydd i ryddhau nwy yn sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared â covid-19 o’r arwynebeddau a’r awyr mewn llai nag ugain munud, heb angen i berson orfod wneud y gwaith o lanhau.

Darparwyd cymorth i’r her gan DASA (Defence and Security Accelerator) a gwyddonwyr y Llywodraeth yn Porton Down.

Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno’r system i wasanaethau golau glas eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Mae’n prifysgolion a’n colegau wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, gan anfon doctoriaid a nyrsys i reng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ymuno â’r frwydr ryngwladol i ddod o hyd i wellhad.

Fel Llywodraeth, rydyn ni’n edrych ar sawl llwybr i guro’r coronafeirws. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae’r gystadleuaeth hon yn dangos bod modd ymateb yn arloesol i sefyllfaoedd o argyfwng.

Rwy’n falch bod prifysgol o Gymru wedi cyrraedd cam cyllido’r gystadleuaeth, gan ddangos sut gall ein prifysgolion roi eu harbenigedd academaidd ar waith wrth wynebu’r heriau mwyaf sydd o’n blaen.”

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rydyn ni i gyd yn chwarae rhan mewn helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws ac rydyn ni wedi gweld esiamplau ledled Cymru o bobl yn dod at ei gilydd i wynebu’r heriau mae’r feirws yma’n parhau i’w creu bob dydd.

Nid yw ein busnesau a’n prifysgolion ni’n wahanol o ran wynebu’r heriau yma ar y cyd ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r cydweithredu arloesol yma am ba mor gyflym maen nhw wedi gallu ymateb.”

Dywedodd Dr Chedly Tizaoui o Brifysgol Abertawe, peiriannydd cemegol a Phrif Ymchwilydd y prosiect:

“Mae Prifysgol Abertawe yn hynod o falch o gael gweithio gyda chymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI i ddarparu ateb cyflym posib ar gyfer glanhau ambiwlansys. Mae’n gyfle gwych i ni helpu gwasanaethau rheng flaen a’n cydweithwyr Iechyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19.”

Fel y prif ymchwilydd, bydd Dr. Tizaoui yn gweithio ar y prosiect gyda’i gydweithwyr yr Athro Dave Worsley a’r Athro Peter Holliman.

Stori: Llywodraeth Cymru

 

Rhannu'r stori