Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Staff o’r feddygfa Tŷ’r Melin yng Ngorseinon, gyda’r hylif diheintio

Staff o’r feddygfa Tŷ’r Melin yng Ngorseinon, gyda’r hylif diheintio

Mae labordy technoleg solar ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwneud newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos er mwyn helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Mae’r hylif diheintio, sy’n dilyn y safonau a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), eisoes yn cael ei ddefnyddio o fewn y GIG yng Nghymru.

Mae’r tîm yn cynnwys dros 30 o wirfoddolwyr o dri Choleg ac Ysgol o fewn Prifysgol Abertawe sydd â’r nod o gefnogi GIG Cymru wrth iddynt geisio mynd i’r afael â’r pandemig byd-eang.

Mae’r cynhyrchu yn cael ei arwain gan Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC, sy’n arbenigo mewn ymchwil solar a datblygu adeiladau sy’n cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni solar eu hunain.

Meddai Dr Iain Robertson, Darllenydd ym Mhrifysgol Abertawe: 

“Mae’r prosiect hwn wedi uno’r Brifysgol gyfan. Ar ôl i’r hylif diheintio gael ei gymeradwyo, roedd modd i ni ei ddaparu i’r bobl oedd ei angen o fewn saith diwrnod. Rydym wedi gallu defnyddio arbenigedd prosesu cemegol tîm SPECIFIC Prifysgol Abertawe.

“Rydym bellach yn gallu cynhyrchu 5,000 litr yr wythnos i'w dosbarthu i fyrddau iechyd a chartrefi gofal lleol. Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gefnogi gweithwyr a gofalwyr y GIG.”

Mae’r tîm yn gweithio’n agos â gwneuthurwyr lleol i gael gafael ar y symiau enfawr o gynhwysion sydd eu hangen. Mae un o’r distyllfeydd mwyaf yng Gymru, Bragdy Coles, wedi ateb y galw drwy newid eu cynhyrchiad rỳm i ethanol, er mwyn gwneud y hylif diheintio dwylo, yn ogystal â chynyddu’r cynhyrchu mewn cyfnod byr i ateb y galw. Ac roedd is-gwmni Prifysgol Abertawe, Hexigone Inhibators, wedi benthyg eu staff ac arbenigedd gweithgynhyrchu i'r prosiect yn ystod y cyfnod sefydlu.

Mae’r broses weithgynhyrchu hefyd wedi cael ei newid a’i mireinio drwy gydol yr wythnos gydag offer newydd yn cael eu creu. Dyfeisiodd y tîm offeryn potelu aml-ben a all lenwi potel 5L mewn 20 eiliad yn hytrach na 60 eiliad.

Yn dilyn cynhyrchu, gyda chymorth Chemcycle, mae’r hylif diheintio yn cael ei ddanfon i rwydweithiau dosbarthu’r GIG er mwyn iddo allu bwydo i'r cadwyni cyflenwi yn y ddau fwrdd iechyd lleol.

Mae nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda coronafeirws yn cynyddu bob dydd, ac mae cyflenwadau hylif diheintio a’r deunyddiau sydd eu hangen i'w greu yn brin ledled y byd.

Mae’r prosiect hwn yn un o lawer o fentrau a ddaeth o Gonsortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegol a Chyflym De Cymru (SWARM), a sefydlwyd er mwyn uno a galluogi sefydliadau lleol i gefnogi’r GIG.

Meddai’r Athro Dave Worsley, Is-lywydd Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae gennym dreftadaeth gref o weithgynhyrchu yma yn ne Cymru, ac fel Prifysgol, roeddem yn awyddus i addasu ein sgiliau a’n cyfleusterau i helpu gwarchod arwyr ein GIG. Bydd y gadwyn cyflenwi yn ailgyflenwi’r stoc yn y pen draw, ond mae gwneud hylif diheintio dwylo yn lleol yn ffordd wych o lenwi’r bwlch.

“Rydym wedi gweithio’n galed i gyrraedd y cam hwn mor gyflym ac, fel tîm, rydym yn edrych ymlaen at fod mewn man lle gallwn ddosbarthu’r hylif diheintio yn lleol.” 

Ychwanegodd Dr Tracey Brady, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Tre-Gŵyr:

“Mae hylif diheintio dwylo yn rhan hanfodol o’r offer sy’n ofynnol gan weithwyr gofal iechyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19. Fel meddygfa, rydym wrth ein bodd o fod wedi derbyn cyflenwad gan ein prifysgol leol. Bydd hyn yn ein helpu i leihau’r risg o drosglwyddo coronafeirws a chadw ein cleifion a’n staff yn ddiogel.”

Hoffai Prifysgol Abertawe ddiolch i'r busnesau lleol canlynol sydd hefyd wedi helpu i ddarparu'r hylif diheintio i'r gweithwyr rheng flaen:

Fluid Power Solutions Wales: Wedi darparu amrywiaeth o ddyfeisiau cyflenwi a gosodiadau pibellau, ar fyr rybudd, er mwyn galluogi'r tîm i gysylltu'r darnau o offer â'i gilydd a throsglwyddo'r hylif diheintio'n effeithiol.

Roberts Direct Ltd: Wedi helpu gyda'r gwaith o ddosbarthu nwyddau bob dydd a dadlwytho'r llestri cymysgu anferth ar gyfer yr hylif diheintio. Heb offer y cwmni hwn, byddai'r dasg wedi bod yn amhosibl.

Perkin Elmer: Wedi cynorthwyo'r tîm wrth sefydlu gwiriadau rheoli ansawdd ac wedi llunio nodyn ar ddadansoddi hylifau diheintio dwylo.

Greenbuild Consulting: Wedi gweithio gyda'r tîm cyfleusterau fel ymgynghorwyr ar iechyd a diogelwch, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r tîm am reoliadau wrth iddynt newid yn ystod yr argyfwng.

Hybrisan: Wedi cael gafael ar y 600 potel gyntaf a’u rhoi am ddim er mwyn sicrhau bod yr hylif diheintio'n cyrraedd y gweithwyr rheng flaen yn gyflym.

Centregreat: Hefyd wedi cyflenwi poteli a chapiau sgriw am ddim er mwyn bodloni galw'r GIG.

 

Rhannu'r stori