Diffyg cytundeb ymhlith y cyhoedd am frechiadau Covid-19 i blant

Mae ymchwil newydd gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu i ba raddau mae aelodau o'r cyhoedd yn anghytuno am gynnig brechiadau Covid-19 i blant ai peidio.  

Datgelodd yr astudiaeth gan Dr Simon Williams, fod llawer o ansicrwydd o hyd – yn enwedig ymhlith rhieni – am bwnc y mae llawer ohonynt yn ei ystyried yn bwnc llosg, llawn cymhlethdodau.

Mae newydd ei chyhoeddi ar MedRxiv, sef wefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu canfyddiadau newydd am faterion cyfoes cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i’w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*rhagor o wybodaeth isod).

Y prif ganfyddiadau oedd:

  • Yn gyffredinol, roedd brechiadau Covid-19 i blant yn cael ei ystyried yn fater cymhleth heb ateb syml. Roedd llawer o rieni ac aelodau o'r cyhoedd yn ansicr a ddylid cynnig brechiad i blant ai peidio;
  • Un o'r prif resymau am hyn oedd bod goddefgarwch llawer o bobl yn is am yr hyn roeddent yn ei ystyried yn risg tymor hwy ac anhysbys y brechiadau i blant. Er bod llawer yn fodlon goddef y risgiau hynny eu hunain, roeddent yn teimlo bod plant yn fwy agored i niwed, ac roeddent am aros am ragor o dystiolaeth.
  • Rhai o’r rhesymau eraill dros betruster oedd: ansicrwydd a allai plant ddal, drosglwyddo neu gael eu niweidio'n ddifrifol gan Covid-19 a normau cymdeithasol ymhlith rhieni nad oeddent am i'w plant gael y brechiad eto.
  • Un o'r rhesymau allweddol pam roedd pobl yn cefnogi brechiadau i blant oedd dymuniad i barhau i ddiogelu eraill yn y gymdeithas, ac
  • Roedd y rhai a oedd yn fwy ansicr am frechiadau i blant, neu'n eu gwrthwynebu, yn tueddu i gysylltu'r rhaglen frechiadau'n fwy â llywodraeth a gwleidyddiaeth. Roedd y rhai hynny a oedd yn fwy agored i'r syniad, neu'n fwy cefnogol, yn tueddu i gysylltu'r rhaglen frechiadau'n fwy â gwyddoniaeth a'r gwasanaeth iechyd. Roedd y bobl hynny yn dadlau y byddent yn fwy tebygol o gefnogi'r syniad o frechu plant pe gallai gwyddonwyr a rheoleiddwyr meddygol ddangos bod hynny’n ddiogel.

Yr astudiaeth yw'r adroddiad diweddaraf o brosiect Barn y Cyhoedd am Bandemig Covid-19 Prifysgol Abertawe. Roedd yr ymchwil yn cynnwys grwpiau ffocws a chyfweliadau â phobl o bob cwr o'r DU drwy gydol pandemig Covid-19 i archwilio eu safbwyntiau a'u profiadau o amrywiaeth o bynciau a oedd yn gysylltiedig â'r pandemig, gan gynnwys brechu plant.

Dywedodd Dr Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Pobl a Sefydliadau: “Mae cyflymder a helaethder derbyn y brechiadau yn y DU wedi bod yn arbennig. Fodd bynnag, mae trafodaeth yn parhau yn y DU am a ddylem ni gynnig brechiadau i blant hŷn, yn enwedig o gofio bod sawl gwlad eisoes yn gwneud hynny.

“Ystyriodd yr astudiaeth hon agweddau'r cyhoedd at hyn, gan ganfod bod llawer o ansicrwydd, er bod teimladau'n gymysg. Gallai hyn fod oherwydd bod pobl, a rhieni'n benodol, yn tueddu i fod yn llawer mwy gwrth-risg wrth ystyried risg i blant o'i gymharu â'u hagwedd at risg iddyn nhw eu hunain.

“O ganlyniad, mae'n ymddangos bod llawer yn meddwl bod risgiau'r brechiad yn fwy na'r buddion – oherwydd diffyg tystiolaeth yn eu llygaid nhw am ddiogelwch y brechiad ymhlith plant, yn enwedig yn y tymor hir, ar y cyd â'r ffaith nad yw’r clefyd mor beryglus i blant ag ydyw i oedolion.

“Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yr ansicrwydd hwn yn dechrau lleihau, yn yr un ffordd ag a wnaeth gyda brechiadau i oedolion dros y flwyddyn ddiwethaf, os, a phryd, caiff y brechlyn ei gymeradwyo i'w ddefnyddio ymhlith pant hŷn yn y DU, wrth i fwy o dystiolaeth ddod i'r amlwg ac wrth i bobl ddechrau brechu eu plant.

“Y naill ffordd neu'r llall, bydd angen i sefydliadau gwleidyddol ac iechyd gydnabod a gweithio gyda rhieni, y mae llawer ohonynt yn teimlo bod y penderfyniad i frechu eu plant ai peidio ymhell o fod yn un syml.”

*Mae'r astudiaeth hon wedi'i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai'r cyfryngau drafod y gwaith fel gwybodaeth sefydledig.

Rhannu'r stori