Bioargraffu celloedd dynol ar ffurf 3D yn rhan o waith ymchwil arloesol gwerth £2.5m yn y Brifysgol

Yr Athro Iain Whitaker (ar y chwith), Tom Jovic a Cynthia De Courcey yn Labordy ReconRegen ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae rhaglen ymchwil o’r radd flaenaf sy’n werth o leiaf £2.5m i weddnewid gallu llawfeddygon i adlunio cartilag trwyn a chlustiau cleifion sy'n byw gyda gwahaniaeth wynebol wedi cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe. 

The Scar Free Foundation, yr unig elusen ymchwil feddygol sy'n canolbwyntio'n llwyr ar greithiau, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n ariannu'r rhaglen tair blynedd, a gaiff effaith fyd-eang wrth hyrwyddo'r gwaith o fioargraffu cartilag ar ffurf 3D, yn ogystal ag archwilio sut mae creithiau wynebol yn effeithio ar iechyd meddwl drwy ddadansoddi data'r garfan fwyaf o bobl yn y byd sy'n byw gyda'r gwahaniaeth gweladwy hwn.

Bydd yr Athro Iain Whitaker – yr unig athro llawfeddygaeth blastig yng Nghymru, Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac Arweinydd Arbenigedd Llawfeddygol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – yn arwain y gwaith ymchwil arloesol yn y Ganolfan Ymchwil Llawfeddygaeth Adluniol a Meddygaeth Aildyfu (ReconRegen).

Gwnaeth prif lysgennad yr elusen, Simon Weston, a oroesodd ryfel yr Ynysoedd Falkland, ymweld â safle'r tîm yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol i fwrw golwg agosach dros y dechnoleg. Meddai: “Mae'n wych bod hyn yn digwydd ac mae'r gwaith y byddwn yn ei wneud yn anhygoel. Byddai'r gwaith ymchwil newydd hwn – defnyddio celloedd y claf ei hun i fioargraffu cartilag y glust a'r trwyn – wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi.”

Meddai'r Athro Whitaker: “Rwy'n ddiolchgar am y buddsoddiad a'r cymorth sylweddol hwn a fydd yn sbarduno ymdrechion parhaus ein hymchwil i gynnig triniaethau arloesol a denu rhagor o ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru. Drwy lwyddo i roi'r rhaglen ymchwil hon ar waith, byddwn yn trawsnewid dyfodol llawfeddygaeth, gan gael gwared ar yr angen i drosglwyddo meinwe o un rhan o'r corff i un arall ac osgoi'r poen a'r creithiau cysylltiedig.

“Er ein bod yn canolbwyntio ar gartilag ar hyn o bryd, mae cysyniadau gwyddonol a thechnolegau craidd ein gwaith yn seiliedig ar yr hyn a all fod yn berthnasol i fathau o feinwe megis gwaedlestri, nerfau, esgyrn, croen a braster, a fydd yn atgyfnerthu'r effaith yn sylweddol.”

Mae'r rhaglen newydd yn adeiladu ar astudiaeth gychwynnol (wedi’i chefnogi gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) a oedd yn seiliedig ar waith PhD Zita Jessop, sydd bellach yn uwch-ddarlithydd yn y tîm, ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol blaenorol eraill a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Gwnaed gwaith PhD dilynol gan Tom Jovic, wedi'i ariannu gan Action Medical Research a Microtia UK.

Mae gan un o bob 100 o bobl yn y DU wahaniaeth wynebol sylweddol, a all gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl cleifion. Felly, bydd y cyllid hefyd yn arwain at yr astudiaeth fwyaf yn y byd o bobl sy'n byw gyda chreithiau wynebol, er mwyn asesu'r effeithiau seicogymdeithasol ar gleifion fel y gellir llunio strategaethau gofal iechyd effeithiol a'u clustnodi'n briodol.

Meddai'r Athro Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Rydym yn byw mewn cymdeithas sy'n rhoi pwyslais cynyddol ar olwg pobl, felly mae gwir angen deall canlyniadau creithiau wynebol ar iechyd meddwl ac achosion sylfaenol y rhain.”

“Mae'n hanfodol ein bod yn ymchwilio i'r hyn a allai esbonio pa bobl y gellid effeithio arnynt yn fwy, a phryd a pham byddai hynny'n digwydd, fel y gallwn wneud rhywbeth am y peth yn gynharach a datblygu ffyrdd newydd o reoli ac atal y problemau hyn. Er nad ydynt mor weladwy â chreithiau wynebol, gall y problemau iechyd meddwl hyn gael effeithiau pellgyrhaeddol tymor hir ar fywydau a pherthnasoedd. Mae'n wych gweld y rhaglen arloesol hon yn mynd i'r afael â'r materion hyn ochr yn ochr â blaengaredd llawfeddygol.”

Meddai Brendan Eley, Prif Weithredwr The Scar Free Foundation: “Mae'r gwaith ymchwil hwn a fydd yn newid bywydau yn rhan o'n hymrwymiad i iachau pobl heb adael creithiau o fewn cenhedlaeth i'r miliynau o bobl sy'n byw gyda chreithiau yn y DU ac ym mhedwar ban byd.”

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn sefydlu trosolwg cenedlaethol cynhwysfawr o natur a safon y triniaethau a'r gwasanaethau a ddarperir i gleifion sy'n dioddef o ganser y croen ledled Cymru, lle bydd Tom Dobbs a John Gibson, sy'n aelodau o'r grŵp, yn cydweithio â'r Athro Whitaker i wneud argymhellion i ail-lunio gwasanaethau'n seiliedig ar anghenion cleifion.

Rhagor o uchafbwyntiau ein hymchwil i arloesi ym maes iechyd

 

Rhannu'r stori