Mae Zita Jessop yn frwd dros ddau faes yn ei bywyd proffesiynol – llawfeddygaeth ac ymchwil. Mae hi'n falch bod ei swyddi fel uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe a chofrestrydd yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn rhoi cyfle iddi ymwneud â'r ddau beth.  

Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt a chwblhau hyfforddiant llawfeddygol cynnar yn Llundain, ymunodd Zita â ReconRegen (Grŵp Ymchwil Llawfeddygaeth Adluniol a Meddygaeth Aildyfu) Abertawe yn 2014 i wneud ymchwil ddoethurol ar fioargraffu 3D a pheirianneg meinweoedd cartilag. Roedd yr ymchwil, dan oruchwyliaeth yr Athro Iain Whitaker, cyfarwyddwr ReconRegen, yn canolbwyntio ar ddod o hyd i'r bio-inc delfrydol i argraffu meinweoedd ar gyfer llawfeddygaeth adluniol.  

O ganlyniad i hyn, penodwyd Zita yn un o gymrodyr ymchwil Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ac yn un o gymrodyr hyfforddiant ymchwil glinigol y Cyngor Ymchwil Feddygol – yr unigolyn cyntaf i ennill y fath wobr ym Mhrifysgol Abertawe – yn ogystal â chael ei chydnabod drwy wobr y brifysgol am gyfraniad rhagorol at ymchwil.   

Llun pen o Zita Jessop

Meddai: “Mae llawfeddygaeth blastig adluniol gan amlaf yn ymwneud â chau clwyfau, rheoli clwyfau ac adlunio meinweoedd diffygiol ar ôl achosion o dorri canser allan, trawma a llosgiadau.  

“Mae clwyfau a meinweoedd diffygiol yn aml yn gwanhau cleifion ac yn faich sylweddol ar iechyd pobl a'r economi, gan gostio £5.3 biliwn amcangyfrifedig i'r GIG bob blwyddyn. Fy nod yw datblygu bio-inciau naturiol ar gyfer bioargraffu mathau amrywiol o feinweoedd.”   

Gwnaeth ei gwaith ymchwil ennill Medal Llawfeddygaeth Cutler Coleg Brenhinol y Llawfeddygon am arloesi, Gwobr Gwyddoniaeth Sylfaenol Burnand y Gymdeithas Llawfeddygaeth Academaidd ac Ymchwil, ac mae’n cael ei baratoi i'w roi ar waith yn glinigol ar ôl i ReconRegen gael cyllid sylweddol gan The Scar Free Foundation a chorff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  

Enillodd Zita ysgoloriaeth Fulbright yn 2018 i gael hyfforddiant ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Harvard, yn ogystal â chael cymrodoriaeth Ethicon i deithio i Melbourne a chymrodoriaeth Norman Capener i deithio i Utrecht.  

Mae hi bellach yn aelod o fyrddau golygyddol y cyfnodolion 3D Printing in Medicine a Bioprinting, a gwnaeth olygu'r gwerslyfr 3D Bioprinting for Reconstructive Surgery ar y cyd â'r Athro Whitaker.  

Un o uchafbwyntiau ei gyrfa oedd cyflwyno ar destun peirianneg meinweoedd yn Nhŷ'r Arglwyddi wrth ddathlu saith degawd o arloesi yn y GIG yn 2019. Yn fwyaf diweddar, rhoddwyd cadair athro Hunterian Coleg Brenhinol y Llawfeddygon iddi am ei gwaith ym maes bioargraffu 3D.  

“Mae llawfeddygaeth academaidd yn yrfa hynod heriol sydd hefyd yn fuddiol – gall y syniad o fioargraffu meinweoedd gweithredol yn y labordy newid patrwm llawfeddygaeth adluniol a thrawsnewid gofal cleifion.”   

Yn ystod y pandemig, gwnaeth Zita lunio gwaith ymchwil ar y cyd yn ogystal ag arwain treial clinigol proffil uchel mewn cydweithrediad ag Uned Dreialon Abertawe a'r Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd er mwyn helpu i ddod o hyd i ffordd o ddiogelu cydweithwyr rhag Covid-19 drwy ddefnyddio chwistrelli i'r trwyn sydd ar gael i'w prynu.  

Oherwydd y gefnogaeth a roddwyd iddi, mae Zita yn awyddus i annog cydweithwyr iau a chymheiriaid ac mae hi hefyd wedi cynnal ei brwdfrydedd clinigol dros ficrolawdriniaeth. O ganlyniad i hyn, cydnabuwyd ei gallu i gydbwyso hyfforddiant llawfeddygol ac ymchwil pan gafodd ei henwi'n uwch-hyfforddai gorau gan y bwrdd iechyd.    

Meddai: “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael rhai mentoriaid anhygoel drwy gydol fy ngyrfa ac i weithio mewn amgylchedd cefnogol gyda chydweithwyr a chleifion sy'n fy ysbrydoli bob dydd. Gobeithio y caf y cyfle i helpu pobl eraill sydd am ddilyn llwybr tebyg.”