Galw am wirfoddolwyr i gyfrannu at ymchwil i chwistrell i'r trwyn a allai helpu yn erbyn Covid-19

Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am wirfoddolwyr o Dde Cymru i fod yn rhan o ymchwil hollbwysig i weld a allai chwistrell i'r trwyn sydd ar gael i'w phrynu helpu i amddiffyn pobl yn erbyn Covid-19. 

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n ymchwilio i weld a allai Carragelose, sy'n cynnwys math o wymon, atal salwch Covid-19 neu leihau difrifoldeb y symptomau.

Maent yn ehangu'r ymchwil ac maent bellach am glywed gan weithwyr allweddol, megis athrawon, heddweision a staff awdurdodau lleol, neu unrhyw un sy'n parhau i ryngweithio â phobl y tu allan i'w haelwyd at ddibenion gweithio, astudio neu wirfoddoli, a hoffai gymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn.

Meddai Dr Zita Jessop, sy'n arwain y gwaith ymchwil: “Rydym eisoes wedi recriwtio aelodau o staff y GIG sydd ar y rheng flaen ac rydym bellach yn agor yr astudiaeth hon i weithwyr allweddol sydd heb gael prawf positif am Covid-19 ac sydd heb gael brechiad eto. Dyma gyfle i helpu i wneud gwaith ymchwil a allai fod yn arloesol ar atal Covid-19 rhag heintio pobl.”

Profwyd yn glinigol eisoes fod Carragelose, fersiwn o iota-carrageenan sydd dan batent, yn helpu i gwtogi hyd a difrifoldeb anwydau a symptomau'r ffliw, ac mae canlyniadau astudiaeth in-vitro (tiwb profi) newydd mewn labordy yn awgrymu y gallai Carragelose hefyd leihau'r risg y bydd SARS-CoV-2, y feirws sy'n achosi Covid-19, yn heintio pobl.

Cynhelir y treial clinigol hwn, sef ICE-COVID, gan Uned Treialon Abertawe, Prifysgol Abertawe a'r Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r Athro Ron Eccles, arbenigwr ar anwydau a'r ffliw a chyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Annwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o gyd-ymchwilwyr yr astudiaeth ymchwil hon ac mae wedi bod yn gweithio gyda'r prif ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Iain Whitaker, Arweinydd Arbenigedd Llawfeddygol corff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a'r Athro Hayley Hutchings, un o gyd-gyfarwyddwyr Uned Treialon Abertawe.

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i helpu i ddod o hyd i atebion newydd a fydd yn cyfuno â mesurau iechyd cyhoeddus i'n helpu i drechu Covid-19.”

Mae Carragelose yn gweithredu fel rhwystr yn y trwyn drwy ffurfio gel i ddal gronynnau feirysau anwydau a'r ffliw wrth iddynt gyrraedd y corff, gan leihau'r tebygolrwydd y caiff rhywun ei heintio o bosib neu leihau swm y feirws sy'n cyrraedd y corff a thrwy hynny leihau difrifoldeb y symptomau.

Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan e-bostio ei enw a'i rif ffôn cyswllt i Clinical.Research@wales.nhs.uk

Rhannu'r stori