Adroddiad newydd yn mynnu gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl sy'n wynebu'r gymuned Fyddar

Yn ôl adroddiad newydd mae pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol oherwydd bod diffyg gwasanaethau hygyrch, nid oes gwasanaeth iechyd meddwl Byddar arbenigol yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig am faterion Byddar ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal.

Pobl Fyddar Cymru: Mae Anghydraddoldeb Cudd yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu pobl Fyddar yng Nghymru sy'n profi problemau iechyd meddwl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylweddol.

Caiff yr adroddiad, sydd wedi ei lunio gan Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru, ei lansio ar Hydref 21 yng Ngrŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer Materion Byddar ac mae copïau eisoes wedi'u hanfon at aelodau'r Senedd i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy’n cael eu codi.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gweithredu Cyfyngedig o Safonau Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan a olyga nad yw pobl Fyddar yn dal i gael gwybodaeth mewn ffyrdd y gallant ddeall ac ymgysylltu â nhw;
  • Angen am wasanaeth cyngor a chyfeirio ar gyfer unigolion, teuluoedd, a gweithwyr;
  • Bwlch gwybodaeth oherwydd nad oes nifer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod am wasanaethau cwnsela Byddar i bobl Fyddar sy'n cael eu darparu gan bobl Fyddar; a,
  • Er mwyn cael mynediad llawn i gyfathrebu BSL ar gyfer asesiad a / neu driniaeth, rhaid derbyn pobl fyddar i wardiau iechyd meddwl arbenigol Birmingham, Llundain neu Fanceinion.

Mae Dr Julia Terry, Athro Cysylltiol iechyd meddwl a nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith yr awduron. Meddai: “Mae iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru wedi bod yn fater a esgeuluswyd ers degawdau.

“Mae pobl fyddar eisoes ddwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael yn anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y mae gwasanaethau’n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy’n berthnasol yn ddiwylliannol.

“Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru yn parhau i fod mewn perygl.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau sgwrs i ddatblygu atebion tymor byr a thymor hir i wella gwasanaethau yng Nghymru i bobl Fyddar sy’n profi iechyd meddwl gwael.”

Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru yw:

Paul Redfern - Cadair: Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru, Cyn Rheolwr BDA Cymru

Jacqui Bond – cyn Weithiwr Cymdeithasol Arbenigol yr Awdurdod Lleol gyda phobl Fyddar

Cath Booth – Pennaeth Gwasanaethau, Achieve Together, Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth

Anouschka Foltz – Athro Cysylltiol: Ieithyddiaeth, University of Graz, Awstria, ymchwilydd gofal iechyd gyda phobl Fyddar 

Michelle Fowler Powe – Cydlynydd Eiriolaeth: British Deaf Association  

Helen Green – Rheolwr Rhaglen, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ceri Harris –Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ABUHB – cyn EDI Velindre  

Roger Hewitt – British Society of Mental Health and Deafness  

Stephanie Hill – Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Busnes, Centre for Sign, Sight and Sound (COS)  

Christopher Shank – Uwch Ddarlithydd: Ieithyddiaeth, Prifysgol Bangor, ymchwilydd mewn gofal iechyd gyda phobl Fyddar

Anne Silman – Cyfarwyddiaeth iechyd meddwl UHB Gogledd Cymru Betsi Cadwaladr – Esiampl Wych Comisiwn Bevan  

Louise Sweeney – Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Pobl Fyddar Cymru

Julia Terry – Athro Cyswllt: Prifysgol Abertawe, iechyd meddwl a nyrsio  

Sofia Vougioukalou – Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Dementia, gofalwyr byddar, a phrofiad y claf

Rhannu'r stori