Athletwyr

Mae athletwyr o'r radd flaenaf sy'n drawsryweddol, fel Laurel Hubbard, a wnaeth godi pwysau dros Seland Newydd yn y Gemau Olympaidd, neu sy'n wahanol o ran eu datblygiad rhywiol (DSD), fel Caster Semenya, sydd wedi rhedeg dros Dde Affrica, wedi cael sylw byd-eang.

Mae arbenigwyr gwyddorau chwaraeon o Brifysgol Abertawe'n gwneud gwaith allweddol wrth amlygu pryderon am y meini prawf cymhwystra ar gyfer cystadlaethau i fenywod, yng nghyd-destun y dystiolaeth ddiweddaraf.

Yn Tokyo 2020, Hubbard oedd un o'r athletwyr benywaidd cyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ar ôl cyhoeddi ei bod hi'n drawsryweddol a hi oedd y cystadleuydd â'r proffil uchaf o bell ffordd.

Yn 2019, dywedodd y Llys Cyflafareddu ar Faterion Chwaraeon (Court of Arbitration for Sport) wrth Semenya y byddai'n rhaid iddi gymryd sylweddau i leihau ei hormonau, neu gael llawdriniaeth, er mwyn parhau i gymryd rhan yn y cystadlaethau athletaidd o'i dewis.

Mae Dr Shane Heffernan, uwch-ddarlithydd gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhrifysgol Abertawe, yn ymchwilio i'r materion cymhleth sy'n gysylltiedig â'r fath achosion.

Yn ddiweddar, roedd yn aelod o dîm arbenigol o Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) a wnaeth lunio canllawiau arfaethedig ar gyfer cyrff chwaraeon yn y DU a'r byd, yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf.

Esboniodd Dr Heffernan:

“Mae meini prawf cymhwystra World Athletics, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) a chyrff llywodraethu eraill ar gyfer athletwyr trawsryweddol a DSD o'r radd flaenaf yn fater cymhleth sy'n ymwneud â gallu ffisiolegol, geneteg, newidiadau cymdeithasol a diwylliannol a moeseg feddygol. Yn ein datganiadau arbenigol, gwnaethom grynhoi'r data sydd ar gael ynghylch a yw'r meini prawf hyn yn briodol a chyflwyno nifer o argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a'r meini prawf presennol.

Mae'r gwaith hwn gyda chydweithwyr yn fyd-eang, dan arweiniad Dr Georgina Stebbings a Dr Alun Williams o Brifysgol Fetropolitan Manceinion, yn parhau ac yn cynyddu.”

Mae Dr Heffernan, ar y cyd â'i gydweithiwr o Brifysgol Abertawe Dr Andy Harvey ac eraill, yn cynnal astudiaeth newydd o'r enw DATES: Chwaraeon DSD a Thrawsryweddol o'r Radd Flaenaf.

Yn ôl Dr Heffernan, bydd DATES yn archwilio rhai o'r materion a'r pryderon sy'n gysylltiedig â'r meini prawf cymhwystra presennol.

“Rydym wrthi'n ymdrechu i ateb cwestiwn pwysig sydd heb ei ateb ar hyn o bryd: beth yw agweddau, barn a safbwyntiau pobl ynghylch cynnwys athletwyr nad ydynt yn gisryweddol (non-cisgender) yn y categori ar gyfer menywod o'r radd flaenaf?

Er mwyn sicrhau bod ein tystiolaeth mor gyflawn â phosib, rydym yn holi athletwyr trawsryweddol, DSD a rhai nad ydynt yn gisryweddol o'r radd flaenaf, ac yn gobeithio siarad â hwy, yn ogystal â'r cyhoedd.

Ar hyn o bryd, bydd dau o raddedigion Gwyddorau Chwaraeon Prifysgol Abertawe'n dechrau eu MSc drwy wneud prosiectau ymchwil ar astudiaeth DATES ym mis Hydref. Gyda chymorth Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru, mae'r holiadur cyntaf yn fyw ac rydym yn gwahodd athletwyr a phobl eraill i'w gwblhau.”

 

Rhannu'r stori