Llun o Abertawe o'r awyr gyda'r testun yn dangos QS World University Rankings.

Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i'r 440fed safle yn y rhestr ddiweddaraf o brifysgolion gorau'r byd a gyhoeddwyd gan y corff mwyaf blaenllaw ym maes graddio prifysgolion. Mae hi wedi dringo mwy o safleoedd nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru eleni.

Am y deunawfed tro, mae rhestrau QS o brifysgolion gorau'r byd wedi cael eu cyhoeddi gan QS Quacquarelli Symonds, sy'n dadansoddi addysg uwch yn fyd-eang, gan enwi 1,300 o brifysgolion gorau'r byd – 145 yn fwy na'r llynedd.

Mae bri byd-eang cynyddol Prifysgol Abertawe wedi sicrhau ei bod hi wedi dringo 34 o safleoedd ers y llynedd – yn fwy nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru.

Mae'r rhestrau'n rhoi dadansoddiad cymharol awdurdodol o berfformiad prifysgolion gorau'r byd mewn 97 o leoliadau. Enwebwyd cyfanswm o 6,415 i'w gwerthuso. Roedd 3,775 ohonynt yn gymwys a dadansoddwyd 1,673 ohonynt. 

Mae 90 o brifysgolion ym Mhrydain wedi cael eu rhestru ond dim ond 28 ohonynt (31%) sydd wedi gwella eu safle ers y llynedd, gyda 69% yn cadw'r un safle neu'n cwympo. Mae pedwar sefydliad yng Nghymru wedi cael eu rhestru ac mae Abertawe a Chaerdydd wedi gwella eu safleoedd.

Yn ôl rhestrau diweddaraf QS, mae Prifysgol Abertawe hefyd:

  • Ymysg y 400 uchaf am enw da fel cyflogwr (395ed, gan ddringo 195 o safleoedd). Mae'r arolwg byd-eang hwn yn mesur pa brifysgolion sy'n cael eu ffafrio gan gyflogwyr wrth recriwtio eu graddedigion. Mae cyflogadwyedd graddedigion a chysylltiadau â diwydiant ymysg cryfderau mawr Prifysgol Abertawe, ac mae hynny bellach wedi cael ei gydnabod.
  • Ymysg y 500 uchaf am ddyfyniadau (496ed, gan ddringo 12 o safleoedd). Mae cymhareb QS yn mesur nifer y dyfyniadau a gafwyd fesul aelod o gyfadran ar gyfartaledd, gan amcangyfrif effaith ac ansawdd y gwaith gwyddonol a wneir gan brifysgolion.
  • Yn 239fed ac yn 271fed yn y byd am ei chymarebau o academyddion rhyngwladol ac o fyfyrwyr rhyngwladol yn y drefn honno, gan ddangos ei chymhelliant a'i hymrwymiad i fod yn sefydliad gwirioneddol ryngwladol.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch o weld bod Abertawe wedi gwella ei safle ymysg prifysgolion gorau'r byd, yn ôl rhestrau QS eleni. Ochr yn ochr â'n canlyniadau uchel cyson mewn arolygon annibynnol a thablau cynghrair eraill am foddhad myfyrwyr, cyflogadwyedd a rhagoriaeth ymchwil, mae hyn yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe'n parhau i ennill bri am ei rhagoriaeth ryngwladol a'i gwaith ymchwil o'r radd flaenaf.”

Gweler rhestrau 2022 yn eu cyfanrwydd 

Rhannu'r stori