Syr David Suchet.

Mae Syr David Suchet, seren y gyfres deledu enwog Poirot, yn chwarae'r brif ran mewn drama newydd sydd wedi cael ei hysgrifennu gan Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe, yr Athro David Britton.

Caiff To Preserve the Health of Man, drama hanesyddol ddamcaniaethol sy'n canolbwyntio ar fywyd y cyfansoddwr William Byrd, ei darlledu ar BBC Radio 3 bob nos o'r wythnos yn dechrau ar 19 Gorffennaf, a’i ffrydio ar BBC Sounds hefyd. Mae'n cynnwys cerddoriaeth hyfryd Byrd, wedi'i recordio'n arbennig yn y Capel Brenhinol yn Nhŵr Llundain dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerddoriaeth y capel, Colm Carey. 

Mae William Byrd (1543-1623) a Thomas Tallis, ei fentor, yn gymeriadau blaenllaw yng ngherddoriaeth Dadeni Prydain. Roedd y ddau ohonynt yn Babyddion ar adeg beryglus ond gwnaethant oroesi dan nawdd y Frenhines Elizabeth. Un o foneddigion y Capel Brenhinol, gwnaeth Byrd ysgrifennu'n agored i'r Eglwys Anglicanaidd, er iddo gyfansoddi offerennau cân ar raddfa fach ar gyfer aelwydydd Pabyddol reciwsantaidd, a hynny'n ddirgel. Wedi'u hysgrifennu ar gyfer tri, pedwar a phum llais, y rhain yw'r darnau corawl eglwysig cyntaf sy'n cynnwys lleisiau benywaidd ac maent yn cael eu dathlu'n eang bellach. Mae enw'r ddrama, To Preserve the Health of Man, yn deillio o gyfiawnhad Byrd dros bwysigrwydd canu cyhoeddus.  

Prin yw'r wybodaeth am fywyd personol Byrd. Yr hyn sydd wedi goroesi yw ei sgorau cerddorol, ynghyd ag archifau'r Frenhines Elizabeth, y Brenin James I a'r Capel Brenhinol a rhai cofnodion llys (roedd cyfreithgarwch Byrd yn enwog!). Mae gwaith yr Athro Britton yn llenwi'r bylchau yn yr wybodaeth gyffredin mewn modd dramatig a dychmygus.

Caiff y ddrama ei darlledu'n gyntaf ar ffurf pum pennod ac mae fersiwn omnibws hwy yn yr arfaeth yn nes ymlaen eleni. Ochr yn ochr â Syr David, mae Sarah Kestelman yn chwarae rhan Juliana, sef gwraig Byrd, Philip Jackson yw Thomas Tallis, Gunnar Cauthrey yw Edmund Campion a Juliet Aubrey yw'r Frenhines Elizabeth. Alison Hindell sy'n cyfarwyddo. 

Meddai'r Athro Britton: “Mae Byrd yn gymeriad cymhleth, sy'n gynnes, yn garedig, yn groes, yn ddisglair ac yn llawn amheuon ar yr un pryd. Mae wedi bod yn bleser pur gwylio'r ffordd bwerus a chynnil y mae Syr David wedi ymgorffori'r rôl. Mae e'n frwd iawn dros gerddoriaeth Byrd, felly mae ef wedi bod yn rhan gynhenid o ddatblygiad y ddrama o'r dechrau'n deg; mae ei ymrwymiad yn gwneud cyfraniad mawr at y cynhyrchiad terfynol, yn enwedig gyda chymorth cast a chôr o'r radd flaenaf.” 

Gwrandewch ar To Preserve the Health of Man ar BBC Radio 3 o 19 Gorffennaf.

Rhannu'r stori