Astudiaeth o effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn archwilio effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant yng Nghymru. 

Er bod ysgolion yn paratoi i groesawu disgyblion yn ôl, bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol yn parhau i darfu ar chwaraeon a gweithgareddau chwarae.

Yn ôl y gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff Dr Kelly Mackintosh, Dr Melitta McNarry, yr Athro Gareth Stratton a Dr Denise Hill, gall newidiadau o'r fath effeithio'n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol a lles plant a phobl ifanc.

Er bod plant yn llai tebygol o gael eu heintio gan Covid-19, mae'r effeithiau cyd-destunol ehangach yn fwy tebygol o amharu arnynt. O ganlyniad i hynny, mae plant yn fwy tebygol o ddioddef yn wael o straen, gorbryder, problemau ymddygiadol ac ofn sy'n gysylltiedig â'r pandemig.

Meddai Dr Mackintosh: “Bydd y prosiect hwn yn gwella ein dealltwriaeth yn sylweddol o effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc ac yn ein helpu i roi cyfarwyddyd ynghylch pa strategaethau y mae eu hangen i leihau'r effeithiau hyn, ar hyn o bryd ac yn y tymor hwy.”

Mae'r ymchwilwyr yn datgan bod pryder cynyddol y gall y patrymau byw eisteddog presennol sy'n deillio o'r pandemig gael eu gwreiddio wrth i blant a phobl ifanc golli'r arfer o fod yn gorfforol fywiog.

Bydd eu hastudiaeth, Lefelau gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystod Covid-19, yn monitro pobl ifanc yng Nghymru rhwng wyth ac 16 oed dros y flwyddyn nesaf.

Mae Dr Liezel Hurter, cynorthwy-ydd ymchwil Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru – sy'n bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a arweinir gan Brifysgol Abertawe – wedi recriwtio cyfranogwyr o ysgolion ledled Cymru.

Mae'r gwaith ymchwil yn cynnwys arolwg o weithgarwch corfforol, iechyd a lles wedi'i deilwra, gan gynnwys is-sampl o 800 o blant nodweddiadol wedi'u dewis ar hap i wisgo dyfeisiau ar eu harddyrnau i fonitro eu gweithgarwch.

Bydd y dyfeisiau hyn yn cofnodi gweithgarwch y bobl ifanc dros gyfnod o saith niwrnod ar adegau amrywiol: gwneir hyn am y tro cyntaf yn ystod y cyfyngiadau symud ac yna ar adegau eraill ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ysgol.

Meddai Dr Mackintosh: “Rydym am nodi lefelau gweithgarwch a lles presennol plant cyn olrhain a fydd y rhain yn newid yn ystod cyfnodau amrywiol y pandemig.

“Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i nodi effaith fyrdymor a hirdymor y pandemig a'r cyfyngiadau cysylltiedig.”

Mae'r ymchwilwyr yn datgan y bydd y prosiect yn arbennig o bwysig wrth helpu i gefnogi ysgolion wrth iddynt geisio hyrwyddo gweithgarwch plant a phobl ifanc a'u hymwybyddiaeth o bwysigrwydd byw'n iach yn ystod cyfnod argyfwng Covid-19 a'r tu hwnt.
Rhennir canfyddiadau rhagarweiniol y grŵp drwy flogiau, ffeithluniau a phodlediadau.

Meddai Dr Mackintosh: “Rydym am ddefnyddio'r canlyniadau i lywio strategaethau i hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc yng nghyd-destun materion ehangach sy'n gysylltiedig â Covid-19.

“Gan y cydnabuwyd eisoes fod anweithgarwch corfforol yn her fawr i iechyd y cyhoedd yn yr 21ain ganrif cyn dyfodiad coronafeirws, ni ellir gorbwysleisio graddau'r broblem hon a'i goblygiadau.

“Mae cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, a'r cysylltiad rhyngddynt, yn hollbwysig.”

Rhannu'r stori