Argraffydd 3D: anfonwyd argraffydd 3D ar fenthyg at 70 o fyfyrwyr ar y modiwl gweithgynhyrchu digidol ar ddechrau'r ail semester.

Argraffydd 3D:  anfonwyd argraffydd 3D ar fenthyg at 70 o fyfyrwyr ar y modiwl gweithgynhyrchu digidol ar ddechrau'r ail semester.

Er nad oes modd iddynt fynd i'r labordy oherwydd Covid-19, mae myfyrwyr peirianneg wedi bod yn cael profiad ymarferol hanfodol, diolch i becynnau labordy cartref sydd wedi cael eu datblygu a'u hanfon gan eu darlithwyr.

Mae gweithio ar broblemau gyda chydrannau a pheiriannau ffisegol a'u datrys yn rhan hanfodol o hyfforddiant peirianwyr. Fodd bynnag, mae mesurau cadw pellter cymdeithasol a'r newid i addysgu ar-lein wedi ei gwneud hi'n amhosib iddynt wneud hyn yn y labordai ar ein campysau.

Diolch i syniadau creadigol darlithwyr yn y Coleg Peirianneg, nid yw'r myfyrwyr yn colli cyfle: gan na all y myfyrwyr fynd i'r labordy, mae'r tîm wedi mynd â'r labordy at y myfyrwyr, gan anfon offer atynt y gellir eu defnyddio gartref.

Mae myfyrwyr peirianneg ar ddau fodiwl gwahanol eisoes ar eu hennill.

Anfonwyd argraffydd 3D ar fenthyg at 70 o fyfyrwyr ar y modiwl gweithgynhyrchu digidol ar ddechrau'r ail semester. Oherwydd hynny, maent wedi cael ymarfer allweddol â'r dechnoleg, gan adeiladu eu cydrannau eu hunain, a gwneud y gwaith angenrheidiol i gwblhau'r modiwl. Mae'r myfyrwyr hefyd wedi cael cadw'r peiriannau er mwyn parhau i ddysgu gartref dros yr haf ac ategu eu hastudiaethau yn y drydedd flwyddyn.

Meddai Dr Peter Dorrington, uwch-ddarlithydd yn y Coleg Peirianneg:

“Fel rheol, byddai gennym 70 o fyfyrwyr mewn tri labordy cyfochrog yn adeiladu peiriannau. Gan weithio gyda'r prosiect Create Education, daethom o hyd i beiriannau addas ac, er i'r broses gael ei hoedi oherwydd Brexit a Covid-19 – gwnaethom lwyddo i'w hanfon at ein myfyrwyr, yn y DU ac mor bell â Sbaen, Hong Kong a Dubai.

Nod yr ymrwymiad hwn yw sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad ‘ymarferol' o roi peirianneg ar waith: mae'r elfen ffisegol yn hanfodol i beirianwyr wrth iddynt ddysgu.

Mae'n destun cyffro mawr ein bod wedi cael cefnogaeth yr Athro Cyswllt Eifion Jewell, yr Athro Cris Arnold a Ruth Bunting i sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Meddai Mark McCall, myfyriwr sydd wedi bod yn defnyddio un o'r argraffyddion 3D i ddysgu gartref:

“Rwyf wedi mwynhau'r modiwl argraffu'n fawr iawn gan y bu'n arbrofol ac yn ymarferol iawn. Mae modd dysgu i wneud pethau'n well drwy arbrofi gyda'r gosodiadau neu fodelau o fathau gwahanol, sy'n ddifyr iawn!”

Grŵp arall o fyfyrwyr sydd wedi elwa yw'r rhai sy'n dilyn modiwl o'r enw Integreiddio Data mewn Systemau Mecanyddol.

Mae'r tiwtoriaid wedi creu 250 o becynnau i'w myfyrwyr, gan gynnwys rheolydd micro y gellir eu rhaglennu, synhwyrydd a rhai ceblau cysylltu. Gwnaeth y myfyrwyr gasglu eu pecyn neu ei gael drwy'r post. Yna gofynnwyd iddynt greu arbrawf i arddangos yr hyn yr oeddent wedi ei ddysgu am gasglu data drwy synwyryddion digidol a dadansoddi data.

Mae'r pecynnau'n costio rhwng £15 ac £20 ac fe'u dyluniwyd i gysylltu â deilliannau dysgu'r modiwl.

Meddai Dr Eifion Jewell, Athro Cysylltiol yn y Coleg Peirianneg:

“Gydag oddeutu 220 o fyfyrwyr yn y garfan, nid oedd yn ymarferol dod â'r myfyrwyr i'r labordy, felly roedd yn rhaid mynd â'r labordy at y myfyrwyr.

Yn ogystal â'n galluogi i roi caledwedd yn nwylo'r myfyrwyr, mae'r dull gweithredu hwn wedi rhoi cyfle iddynt roi'r dechnoleg ar waith yn y byd go iawn. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth eang o arbrofion mentrus iawn, a oedd ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y byddem wedi rhoi cynnig arno yn y labordy. Byddwn yn defnyddio'r un fethodoleg y flwyddyn nesaf – pandemig ai peidio!”

Astudiwch Beirianneg yn Abertawe

Rhannu'r stori