Cyfarfodydd rhyngwladol i ddod ag arbenigwyr deallusrwydd artiffisial ynghyd i ddatblygu ymchwil

Bydd arbenigwyr deallusrwydd artiffisial o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu gwybodaeth gyda chymheiriaid rhyngwladol mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig, gan ddechrau y mis hwn.

Bydd y digwyddiad cyntaf – gweithdy ar y cyd rhwng y DU a Chorea o'r enw Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol ar gyfer Gwyddoniaeth Sylfaenol – yn cael ei gynnal ar ffurf rithwir o ddydd Llun, 15 Tachwedd i ddydd Mercher, 17 Tachwedd. 

Mae'r digwyddiadau wedi cael eu trefnu gan Gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethurol UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-gyfrifiadura (AIMLAC), sef yr Athro Gert Aarts o Brifysgol Abertawe, a'r Athro Seyong Kim, o Brifysgol Sejong. 

Meddai'r Athro Aarts: “Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol yn benodol wedi arwain at gryn gynnydd ym meysydd ffiseg a seryddiaeth. 

“Gan fod cwestiynau tebyg yn cael eu gofyn, mae dull trawsddisgyblaethol yn arwain at gysylltiadau annisgwyl rhwng disgyblaethau gwahanol. 

“Er mwyn cynyddu gallu, pontio bylchau rhwng disgyblaethau a datblygu fframwaith cyffredin, rydym am ddod ag ymchwilwyr ynghyd yng Nghorea a'r DU drwy dri chyfarfod – yr un cyntaf ar ffurf rithwir, un arall yng Nghorea ac un yma yn y DU.”

Ariennir y digwyddiadau gan Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Corea, Llysgenhadaeth Prydain yn Seoul, a Rhwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesedd y DU (SIN). 

Ychwanegodd yr Athro Aarts: “Rydym yn cadw'r testun yn eang yn fwriadol er mwyn ysgogi rhyngweithio trawsddisgyblaethol a chreu posibiliadau ar gyfer rhwydweithio. Ein nod yw datblygu prosiectau ymchwil cyffredin rhwng dwy wlad.”

Cynhelir y digwyddiad rhithwir cyntaf rhwng 9am ac 11am (amser y DU) bob diwrnod.

Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan

 

Rhannu'r stori