AgorIP yn helpu i gyflwyno cyfres o lyfrau gan seicolegydd i gynulleidfa ehangach

Mae cyfres o lyfrau i helpu i ddiwallu anghenion seicolegol pobl sy'n byw gyda diabetes wedi cael hwb mawr gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe. 

Cyhoeddodd y seicolegydd clinigol Dr Rose Stewart, sy'n gweithio i Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan, gasgliad o lyfrau sy'n canolbwyntio ar effeithiau seicolegol diabetes.

Mae ei llyfrau Talking Type 1 ar gyfer plant, oedolion a theuluoedd sy'n byw gyda diabetes. Ar hyn o bryd, mae pedwar llyfr yn y gyfres – Diabetes Burnout, Not OK with Needles?, Diabetes Distress & Burnout for Parents & Carers a'r llyfr plant How to Manage a Mammoth.

Roedd y llyfrau'n boblogaidd ar unwaith gyda'r GIG ac maent i gyd wedi cael eu dosbarthu ym mhob clinig diabetes yng Nghymru. Cyn bo hir, roedd staff y GIG ledled y DU yn ogystal â phobl sy'n byw mewn rhannau eraill o'r byd yn gofyn am gopïau.

Er mwyn helpu i ddarparu ar gyfer y diddordeb cynyddol hwn, cysylltodd hi ag AgorIP, y sefydliad ym Mhrifysgol Abertawe sy'n helpu busnesau i wireddu potensial eu syniadau.

Meddai Dr Stewart, sy'n uwch-diwtor er anrhydedd yn y Brifysgol: “Gwnaeth AgorIP helpu ein prosiect i gymryd y cam nesaf ac ymdrin â byd dryslyd contractau a chytundebau cyhoeddi. Roedd y tîm yn gyfeillgar iawn, gan ymroi'r amser i ddeall beth yn union yr oedd ei angen arnom.”

Mae AgorIP yn dod â chlinigwyr, academyddion a busnesau ynghyd i ymchwilio i dechnolegau arloesol ac ysgogi llwyddiant masnachol ar y cyd â Phrifysgol Abertawe. Fe'i hariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth AgorIP helpu i negodi contract rhwng Dr Stewart a'i thîm a Gwasg Prifysgol Caergrawnt.

Meddai Yvonne Jones, un o'r rheolwyr trosglwyddo technoleg sy'n cynorthwyo prosiect Talking Type 1: “Mae hi wedi bod yn bleser helpu Rose i negodi contract cyhoeddi ar gyfer ei llyfrau. Caiff y deunyddiau hyn eu dosbarthu'n fyd-eang cyn bo hir, gan helpu llawer mwy o blant a'u teuluoedd i ymdopi â diabetes.”

Mae GIG Lloegr eisoes wedi archebu mwy na 300,000 o lyfrau. Rhoddir yr holl elw sy’n deillio o'r llyfrau i Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan, er mwyn helpu i barhau i ariannu'r prosiect a chefnogi mwy o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda diabetes.

Mae dau lyfryn arall yn yr arfaeth – Adjusting to Life with Diabetes, ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis diabetes math 1 yn ddiweddar, a llyfr arall i blant, How to Handle a Hedgehog.

Ychwanegodd Dr Stewart: “Mae hi wedi bod yn gyffrous iawn gweld Talking Type 1 yn datblygu o fod yn llafur cariad i fod yn gyfres o lyfrau rhyngwladol. Gobeithio y gall y llyfrau hyn helpu pobl sy'n byw gyda diabetes i gael gafael ar y gefnogaeth seicolegol y mae ei hangen arnynt, ac i sylweddoli nad ydynt ar eu pennau eu hunain.”

Mae'r llyfrau ar gael am ddim i unrhyw un yng Nghymru. Os hoffech gael gafael arnynt, cysylltwch â'ch nyrs diabetes arbenigol.

I gael rhagor o fanylion ynghylch AgorIP a sut gall helpu eich prosiect, cysylltwch â Laura Penry

Rhannu'r stori