Derwen fytholwyrdd afiach â llawer o ganghennau marw.

Gall defnyddio technegau synhwyro datblygedig o bell helpu i ddatgelu dirywiad derw'n gynnar a rheoli llawer o glefydau eraill sy'n effeithio ar goedwigoedd ledled y byd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

Gwnaeth y gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn Remote Sensing of Environment archwilio dirywiad derw bytholwyrdd, sydd ar y dechrau'n achosi newidiadau i gyflwr ffisiolegol y goeden nad ydynt yn weladwy iawn. Dim ond yn ddiweddarach, pan fydd y goeden wedi dirywio'n fwy, y bydd newidiadau allanol i liw ei dail ac adeiledd ei chanopi yn dod i'r amlwg.

Gwnaeth yr ymchwilwyr ddefnyddio dull integredig o ddelweddu hypersbectrol a thermol, model trosglwyddo ymbelydrol 3-D ac arolygon maes o fwy na 1,100 o goed a oedd wedi dirywio i raddau amrywiol, gan eu galluogi i broffwydo dirywiad derw bytholwyrdd ar adeg gynnar. 

Daeth y gwaith ymchwil, a wnaed mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cordoba, Cyngor Ymchwil Cenedlaethol Sbaen a Phrifysgol Melbourne, i'r casgliad bod y dull integredig hwn yn allweddol i'r broses o fonitro dirywiad coedwigoedd ar raddfa fawr.  

 Meddai prif awdur yr ymchwil, Alberto Hornero, o'r Adran Ddaearyddiaeth: “Mae'n hanfodol monitro coed mewn coedwigoedd am glefydau cyn i'r symptomau ddod i'r amlwg. Pan fo'r coed yn dechrau sychu neu'n colli eu dail, mae'n rhy hwyr i ddechrau trin a rheoli'r coedwigoedd cau hyn. Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos y bydd defnyddio amrywiaeth o adnoddau fel delweddau datblygedig o'r awyr ac arsylwadau data lloeren yn ein helpu i ddeall a monitro cyflwr ffisiolegol ein derw ac y gallai hyn fod yn berthnasol i lawer o glefydau eraill sy'n effeithio ar goedwigoedd ledled y byd.”

Rhannu'r stori