Mae grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni, sydd wedi’i seilio ar y thema ‘Cydraddoldeb i Ferched’.

Mae’r Neges Heddwch wedi bodoli ers 99 o flynyddoedd, a chyhoeddwyd neges 2021 ar ffurf fideo am 8am ddydd Mawrth, 18 Mai.

Mae pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau sy’n dal i fodoli o fewn ein cymdeithas, ac mae pobl ifanc Cymru wedi penderfynu defnyddio Neges Heddwch 2021 i fynegi eu gweledigaeth am genhedlaeth lle ceir cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mewn neges bwerus, maen nhw’n galw ar bobl ifanc ym mhedwar ban byd i ddefnyddio’r “normal newydd” i greu dyfodol gwell drwy fynnu cydraddoldeb i ferched.

Ar 18 Mai bob blwyddyn ers 1922, mae’r Urdd wedi rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyda’r byd, ac mae’n cyrraedd mwy o bobl bob blwyddyn. Neges 2020 oedd y fwyaf llwyddiannus eto – cyrhaeddodd dros 37 miliwn o bobl mewn 40 o wledydd ledled y byd, a chafwyd ymatebion gan enwogion gan gynnwys Catherine Zeta-Jones, Matthew Rhys a Michael Sheen.

Lluniwyd y neges eleni gan 21 o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdai ‘Cydraddoldeb i Ferched’ dan ofal Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd. Mae’r neges wedi’i chyfieithu i dros 60 o ieithoedd hyd yma – y fwyaf erioed yn hanes y Neges Heddwch.

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni’n hynod falch o'r neges Heddwch ac Ewyllys Da ysbrydoledig a gafodd ei chreu gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe eleni. Ein prifysgol ni yw'r un gyntaf i helpu i lunio neges flynyddol Urdd Gobaith Cymru ac rydyn ni'n falch bod ein myfyrwyr wedi dewis arddangos ymagwedd fyd-eang Prifysgol Abertawe a'n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb. Ein gobaith yw y bydd y neges ryngwladol hon, sydd wedi cael ei chyfieithu i fwy na 60 o ieithoedd, yn dod â phlant a phobl ifanc at ei gilydd ledled y byd, gan rannu gobaith cyffredin am ddyfodol gwell i ni i gyd.”

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd wedi sicrhau neges o’r fath bob blwyddyn. Doed a ddêl, cyhoeddwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd gan bobl ifanc Cymru i’r byd yn flynyddol ers 1922 – ar ffurf cod Morse i ddechrau, yna fel darllediad radio a theledu gan BBC World Service, ac yn fwy diweddar trwy’r cyfryngau digidol. O ryfeloedd byd i gyfnodau o ddirwasgiad, ynghyd â’r pandemig presennol, mae’r Urdd wedi sicrhau neges flynyddol i estyn allan i’r byd.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r Urdd yn arwain drwy esiampl ac yn sicrhau cydraddoldeb i ferched ar bob lefel, gan brofi fod y Neges Heddwch yn fwy na hashtag eleni. Mae cydraddoldeb a hawliau merched yn hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol sy’n darparu i bawb.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe am ei chefnogaeth i’r neges. Mae wedi bod yn fraint i gydweithio â’r Brifysgol o gofio ei hymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb. Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr i lunio’r neges ac i wneud gwahaniaeth yn heintus – rwy’n hyderus y bydd y neges yn taro tant ar draws y byd ac y bydd gweithredu yn ei sgil.”

Meddai Shannon Rowlands o Gastell Newydd Emlyn, sy’n un o’r myfyrwyr a gyfrannodd at y Neges Heddwch eleni: “Fel myfyrwraig meddygaeth, dwi wedi profi a chlywed am wahaniaethu yn erbyn menywod ym myd meddygaeth. Gan fy mod i’n ferch, mae cleifion wedi cymryd yn ganiataol mai myfyriwr nyrsio ydw i yn hytrach na doctor, ac mae ffrindiau benywaidd gen i sy’n awyddus i fod yn llawfeddygon wedi derbyn cyngor i ailystyried eu gyrfa os ydyn nhw eisiau plant.

“Dwi wedi bod mor ffodus i gwrdd â menywod hynod ysbrydoledig ar leoliadau gwaith, sy’n profi bod menywod yn gallu gweithio mewn unrhyw faes maen nhw eisiau. Mae pethau yn sicr yn gwella, ond mae dal gwaith i’w wneud – a dwi’n siŵr fod yr un peth yn wir am broffesiynau eraill, hefyd.”

Rhannu'r stori