Myfyrwyr yn dathlu graddio drwy daflu capiau academaidd yn yr awyr.

Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i'w safle uchaf erioed yn nhablau cynghrair 2022 y Complete University Guide – gan gyrraedd y 30 uchaf.

Mae'r brifysgol wedi dringo tri safle i rif 29 yn y prif dabl, sy'n rhestru 130 o brifysgolion yn y DU drwy fesur elfennau megis safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon graddedigion.

Yn ogystal â dringo i'w safle uchaf erioed yn y tablau, Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe sydd ar y brig yn y DU. Mae metrig newydd, ‘rhagolygon graddedigion – ar y trywydd iawn’, wedi cael ei gyflwyno eleni ac mae'n dangos bod 78.9% o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cytuno eu bod ar y trywydd iawn o ran datblygu gyrfa, a oedd yn 44ain ar restr y DU.

Mae'r canllaw'n dangos bod Abertawe yn yr ail safle yng Nghymru'n gyffredinol a bod y brifysgol yn parhau i gynnig profiad ardderchog a rhagolygon da, gan gyrraedd rhif 35 yn y DU am foddhad myfyrwyr a rhif 26 am ragolygon graddedigion. Mae ansawdd ein hymchwil yn parhau i fod yn y 24ain safle yn y DU wrth i bob prifysgol aros am ganlyniad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf, a gyhoeddir fis Ebrill nesaf.

Mae'r Complete University Guide hefyd yn cyflwyno tablau cynghrair gwahanol ar gyfer 74 o bynciau, ac eleni mae 44 ohonynt yn cynnwys Prifysgol Abertawe, gyda bron hanner ein pynciau'n ymddangos yn yr 20 uchaf.

Mae deg pwnc yn neg uchaf y tabl perthnasol, gyda naw arall ymysg yr 20 uchaf. Mae'r pynciau canlynol yn y deg uchaf:

  • Meddygaeth - 1af
  • Meddygaeth Gyflenwol – 1af
  • Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid – 2il
  • Astudiaethau Americanaidd – 5ed
  • Astudiaethau Iechyd – 6ed
  • Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu – 8fed
  • Astudiaethau Celtaidd – 9fed
  • Peirianneg Gyffredinol – 9fed
  • Peirianneg Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu – 9fed
  • Technoleg Deunyddiau – 9fed

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe wedi sicrhau lle yn 30 uchaf tabl cynghrair y Complete University Guide eleni. Rydym wedi bod yn ennill tir yn raddol ers chwe blynedd ac rydym yn falch ein bod bellach wedi cyrraedd ein safle uchaf erioed.

“Rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau o staff o bob rhan o'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, yn enwedig ar adeg heriol iawn oherwydd y pandemig. Mae rhestrau sefydliadau'n ffactor allweddol pan fydd darpar fyfyrwyr yn penderfynu ble maent am astudio, ac mae'r ffaith bod Prifysgol Abertawe bellach wedi cyrraedd 30 uchaf dau o'r tri phrif dabl domestig yn dangos bod ein hymrwymiad i wella yn parhau.

“Mae ein perfformiad yn arddangos ein hymroddiad i sicrhau bod ein myfyrwyr yn manteisio i'r eithaf ar eu hamser yn Abertawe, gan fagu'r sgiliau a'r profiad y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi a fydd o fudd iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Gweler canlyniadau llawn y tablau cynghrair.

Rhannu'r stori