Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer materion amgylcheddol a moesegol, yn ôl tabl cynghrair newydd People & Planet a gyhoeddwyd gan The Guardian.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer materion amgylcheddol a moesegol, yn ôl tabl cynghrair newydd People & Planet a gyhoeddwyd gan The Guardian.

Cynghrair People & Planet yw'r unig dabl cynhwysfawr ac annibynnol sy'n rhestru prifysgolion y DU yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol. Fe'i llunnir bob blwyddyn gan y rhwydwaith ymgyrchu mwyaf yn y DU ar gyfer myfyrwyr.

Mae People & Planet yn asesu prifysgolion yn ôl 13 o feysydd allweddol, o ffynonellau ynni a lleihau'r defnydd o ddŵr, i fwyd cynaliadwy a buddsoddiadau.

Yna dyfernir dosbarthiad tebyg i radd i bob prifysgol. Unwaith eto, penderfynwyd bod Abertawe'n sefydliad o'r radd flaenaf, ac yn un o'r 10 prifysgol orau yn y DU o blith y rhestr o 154 a aseswyd.

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: 

“Er gwaethaf heriau’r 12 mis diwethaf, rwy’n hynod falch ein bod wedi llwyddo i gadw ein lle ymysg y 10 uchaf yn y gynghrair. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb ymdrechion gwych cydweithwyr ym mhob rhan o’n Prifysgol, yn ogystal ag ymrwymiad a brwdfrydedd ein myfyrwyr.”

Meddai Dr Heidi Smith, Pennaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe:

“Yn y 10 uchaf unwaith eto – camp anhygoel! Dyma dystiolaeth o frwdfrydedd, ymrwymiad a gwaith caled ein staff a'n myfyrwyr. Ar adeg heriol i bawb, maent wedi dangos yn glir yr hyn y gellir ei wneud drwy weithio mewn partneriaeth i gael effaith gadarnhaol ar y blaned a chenedlaethau'r dyfodol.”

Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe

Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori