CISM

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gwerth £4.8m gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyfarpar o'r radd flaenaf i gynhyrchu dyfeisiau lled-ddargludo pŵer silicon carbid a fydd yn creu offer electroneg pŵer mwy effeithlon ar gyfer cartrefi, trafnidiaeth a diwydiant, ac yn helpu i gyflawni uchelgais y genedl i sicrhau allyriadau carbon sero-net.

Mae'r cyllid wedi cael ei ddyfarnu fel rhan o DER (Ysgogi'r Chwyldro Trydanol), rhaglen sy’n rhan o’r Gronfa Herio Strategaethau Diwydiannol (ISCF) a arweinir gan y corff Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Mae DER yn buddsoddi cyfanswm o £28.5m mewn cyfarpar o'r radd flaenaf ledled y wlad ar gyfer cadwyn gyflenwi gystadleuol at ddibenion trydaneiddio i'w datblygu mewn sectorau megis diwydiant, trafnidiaeth ac ynni.    

Bydd y buddsoddiad hwn yn dod â rhwydwaith o fwy na 30 o sefydliadau academaidd, ymchwil a thechnoleg ledled y DU ynghyd yn seiliedig ar bedair canolfan ranbarthol DER ar gyfer diwydianeiddio; cefnogir pob un o'r rhain gan glystyrau a chyrff diwydiannol yng Nghymru, yr Alban, a de-orllewin, gogledd-ddwyrain a chanolbarth Lloegr. Bydd y canolfannau'n cydgysylltu ac yn adeiladu ar allu cenedlaethol y DU i gyflawni twf cynaliadwy hirdymor er mwyn sicrhau allyriadau carbon sero-net drwy alluogi busnesau i gael mynediad agored, hawdd at yr arbenigedd, y cyfleusterau a'r technolegau prosesu y mae eu hangen arnynt i gynhyrchu mwy o electroneg pŵer, peiriannau a gyriannau. 

Mae'r buddsoddiad yn ne Cymru yn elfen allweddol o brosiect newydd y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) sy'n cynnwys partneriaid niferus o gymuned cynhyrchu lled-ddargludyddion CS Connected y rhanbarth. Bydd y buddsoddiad yn ariannu'r gwaith o greu llinell dreialu ddiwydiannol ar gyfer cydrannau electroneg pŵer â bwlch band eang yn Abertawe a Newport Wafer Fab, a fydd yn prosesu swbstradau silicon carbid 6” ac 8” y gellir eu defnyddio i gynhyrchu electroneg pŵer effeithlon ar gyfer sectorau megis moduro, awyrofod, meddygaeth ac ynni.

Meddai Mike Jennings, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe:

“Rydym yn croesawu'r cyllid hwn a fydd yn cyfrannu at ddatblygu gallu electroneg pŵer Prifysgol Abertawe ymhellach. Mae electroneg pŵer yn dechnoleg allweddol at ddibenion galluogi ac fe'i defnyddir ym mhob sector, o gyfarpar cartref i drafnidiaeth, yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bydd y llinell dreialu newydd hon yn arloesi sglodion lled-ddargludo silicon carbid newydd i'w defnyddio yn y genhedlaeth nesaf o systemau electroneg pŵer a fydd yn fwy effeithlon ac yn ysgafnach ac a fydd yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau carbon.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe:

“Rydym yn falch iawn o waith cydweithredol a gwirioneddol arloesol aelodau ein tîm ymchwil electroneg pŵer dan arweiniad yr Athro Cysylltiol Mike Jennings a'u partneriaid yng nghadwyn gyflenwi CS Connected dan arweiniad ein Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol. Mae cael y cyllid ar gyfer y llinell i dreialu cydrannau â bwlch band eang, gyda chefnogaeth hollbwysig Llywodraeth Cymru, yn dangos bod ein harweinyddiaeth a'n hymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, un o heriau ein hoes, yn parhau. Mae dyfarniad DER yn amlygu ein hethos yn Abertawe, a sylfaenwyd gan ddiwydiant, er diwydiant, dros ganrif yn ôl. Rydym yn croesawu'r cyfle i gyfnewid gwybodaeth a chydweithredu'n agos â diwydiant yn ein huchelgais i wella'r byd.”

Meddai Dr Andrew Withey, Rheolwr Integreiddio Prosesau Cyfansawdd Newport Wafer Fab (NWF):

“Mae'r dyfarniad hwn yn dangos cryfder cyfunol cymuned CS Connected yn y rhanbarth o ran technolegau allweddol ar gyfer galluogi trydaneiddio a chysylltedd.

Bydd y buddsoddiad yn rhoi cyfle i NWF ddatblygu dyfeisiau MOSFET silicon carbid y genhedlaeth nesaf, sydd wrth wraidd y chwyldro gwyrdd ac sy’n elfen allweddol o'n huchelgeisiau i dyfu.”

Rhannu'r stori