Logo Gŵyl y Gelli

Bydd Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli eleni, pan ddaw llenorion a darllenwyr at ei gilydd ar gyfer llu o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein ysbrydoledig o ddydd Mercher 26 Mai i ddydd Sul 6 Mehefin.

Dros 12 o ddiwrnodau, bydd mwy na 250 o lenorion clodwiw, pobl sy'n llunio polisïau'n fyd-eang, haneswyr, beirdd, arloeswyr a braenarwyr yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni, gan lansio'r gwaith ffuglen a ffeithiol newydd gorau. Bydd yr ŵyl yn ymdrin â rhai o faterion mwyaf ein hoes, o adeiladu byd gwell ar ôl y pandemig i fynd i'r afael ag argyfyngau cyfansawdd megis newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb a heriau i wirionedd a democratiaeth.

Ddydd Iau 27 Mai am 1pm, bydd Michael Bresalier, Darlithydd Hanes Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno darlith amser cinio o'r enw Learning to live with Covid-19 – What can the History of Influenza Teach us?

Wrth i ni ddysgu sut i ymgynefino â byw gyda Covid-19, bydd Dr Bresalier yn trafod hanes y ffliw yn yr ugeinfed ganrif ac yn olrhain y broses o ymgynefino â hi – sy'n newid o hyd ac sy'n her fyd-eang anferth.

Am 4pm ddydd Iau 27 Mai, bydd Raven Leilani o Efrog Newydd, enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, yn siarad ag enillydd y wobr yn 2020, Bryan Washington, am ennill y wobr am ei nofel gyntaf glodwiw, Luster, gwaith gafaelgar, pryfoclyd a phoenus o ddoniol am y profiad o fod yn fenyw ddu a ddaeth i oed ers dechrau'r mileniwm yn America.

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe'n dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, ac fe'i dyfernir i'r awdur 39 oed neu'n iau sy'n ysgrifennu'r gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg.

Bydd Leilani hefyd yn ymddangos yn ddiweddarach yn yr ŵyl yn y gyfres 10@10 mewn sgwrs â Pandora Sykes nos Wener 4 Mehefin.

Ddydd Sul 30 Mai am 1pm, bydd yr actor, yr ymgyrchydd a chymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, Michael Sheen, yn ymuno â'r Athro Daniel Williams a chyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood i drafod bywyd, gwaith a pherthnasedd parhaus Raymond Williams, wrth i argraffiad newydd o'i waith ysgrifennu cyflawn am Gymru gael ei gyhoeddi i nodi ei ganmlwyddiant. Mae'r argraffiad newydd o Who Speaks for Wales? Nation, Culture, Identity (Gwasg Prifysgol Abertawe) wedi ei olygu gan yr Athro Daniel Williams, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru Prifysgol Abertawe.

Meddai Michael Sheen: “Mae Who Speaks for Wales? gan Williams yn gyhoeddiad gwirioneddol arloesol. Mae ef wedi cael effaith ddwys arnaf innau ac ar lawer o bobl eraill. Mae'r epilog newydd i'r argraffiad estynedig hwn i nodi ei ganmlwyddiant yn dangos sut mae ei feddylfryd mor bwysig a pherthnasol heddiw ag y bu erioed.” Bydd y drafodaeth hon – a fydd yn cwmpasu Pandy yn y 1920au a Pharis yn ystod y rhyfel, ynghyd ag ymgyrchoedd Extinction Rebellion ac Ie dros Gymru – yn cadw ei eiriau mewn cof.

Cewch fwrw golwg dros raglen gyflawn yr ŵyl a chofrestru am y digwyddiadau am ddim yma.

Rhannu'r stori