Person yn sefyll ar arwydd sy'n dweud 'Keep your distance'

Wrth i arweinwyr iechyd alw ar Lywodraeth y DU i roi cynlluniau wrth gefn ar waith i ymdrin â Covid-19, mae arbenigwr blaenllaw ynghylch ymddygiad yn ystod cyfnod Covid-19 wedi rhybuddio y bydd negeseuon clir gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y cyhoedd yn cydymffurfio ar raddfa fawr â mesurau ychwanegol os cânt eu cyflwyno.

Daw'r rhybudd gan Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, ar ôl i astudiaeth ar y cyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion gael ei chyhoeddi. Canfu'r astudiaeth fod dryswch ynghylch y rheolau, diffyg ymddiriedaeth yn llywodraethau'r DU, a theimladau o fod yn ddiymadferth neu'n wrthryfelgar ymysg y prif resymau dros dorri'r rheolau yn ystod pandemig Covid-19.

“Er mwyn helpu i osgoi argyfwng yn y GIG yn ystod y gaeaf, mae angen i lywodraethau'r DU ystyried y rhesymau pam nad yw rhai pobl yn glynu wrth y rheolau nac yn dilyn canllawiau er mwyn atal trosglwyddiad eang, ac efallai y bydd llai o bobl yn cydymffurfio â mesurau ychwanegol os cânt eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf,” meddai Dr Williams. 

Cynhaliodd yr ymchwilwyr grwpiau ffocws ar-lein gyda 51 o oedolion o bob rhan o'r DU i drafod eu profiadau o Covid-19, gan ddod i'r casgliadau canlynol:

  • Prif achos diffyg cydymffurfio oedd dryswch ynghylch rheolau a oedd yn newid yn rheolaidd, yn ogystal â'r ffaith bod gan wledydd y DU reolau gwahanol.
  • O ganlyniad i fynychder y newidiadau i'r rheolau a'r cyhoeddiadau gan lywodraethau'r DU, roedd llawer o bobl wedi blino ar rybuddion – gan deimlo nad oeddent yn gallu dilyn, deall na chofio rheolau penodol, oherwydd eu bod wedi cael gormod o gyfarwyddiadau a gwybodaeth.
  • Gwelwyd bod diffyg ymddiriedaeth yn llywodraethau'r DU yn ffactor mawr i rai pobl.

Canfu'r astudiaeth, a gyhoeddwyd gan PLOS ONE, hefyd fod rhai pobl wedi dysgu i deimlo'n ddiymadferth, a'u bod yn teimlo fel eu bod wedi rhoi'r gorau i ddilyn rheolau ynghylch Covid-19. Mae'n bosib bod pobl eraill yn gynyddol wrthwynebus neu wrthryfelgar ynghylch y rheolau, a bod rhai pobl yn poeni y byddai cyfyngiadau symud parhaus yn arwain at anrhefn sifil gynyddol.

Meddai Dr Williams, prif awdur yr astudiaeth: “Yn ôl ein hastudiaeth, yn amlach na pheidio, pan nad oedd pobl yn dilyn mesurau, roedd yn deillio o'r ffaith ei bod hi'n anodd iddynt ddeall y rheolau, gan iddynt newid mor aml dros amser ac mewn lleoedd gwahanol – er enghraifft, mewn gwledydd gwahanol yn y DU. Yn yr achosion hyn, nid oedd pobl yn torri'r rheolau'n fwriadol, ond roeddent yn eu haddasu neu'n eu dehongli hyd orau eu gallu.

“Un o'n prif themâu oedd bod rhai pobl wedi blino ar rybuddion. Nid oedd y bobl hyn yn amgyffred gwybodaeth mwyach, neu roedd yn anodd iddynt gofio gwybodaeth bwysig, gan eu bod wedi cael gormod o wybodaeth. Mae llawer o bobl wedi hen flino ar fynychder y newidiadau i'r rheolau a'r cyhoeddiadau, neu maent yn teimlo bod y rhain yn drech na hwy, ac efallai fod hynny'n arwain at dorri rheolau'n anfwriadol.” 

Meddai Dr Kimberly Dienes, seicolegydd clinigol ac iechyd ac un o'r cyd-awduron: “Un o brif ganfyddiadau ein gwaith ymchwil oedd bod pobl wedi dysgu i deimlo'n ddiymadferth. Dyma gyflwr seicolegol lle mae pobl yn rhoi'r gorau i geisio cyflawni rhywbeth oherwydd eu bod yn teimlo'n ddiymadferth. Fel rheol, mae hyn yn golygu rhoi'r gorau i ymddygiad iach penodol, fel derbyn bod ceisio rhoi'r gorau i ysmygu neu lynu wrth ddeiet yn ormod iddynt. Yn yr achos hwn, roedd rhai pobl wedi dysgu i deimlo'n ddiymadferth ac wedi rhoi'r gorau i geisio dilyn rheolau nad oeddent yn eu deall neu reolau a oedd yn methu, yn eu barn hwy.”

Cafodd yr ymchwil ei harwain gan Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Dr Kimberly Dienes, Darlithydd Seicoleg Glinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Christopher Armitage o Ganolfan Seicoleg Iechyd Prifysgol Manceinion, a'r ymgynghorydd arbenigol Tova Tampe.

Rhannu'r stori