Yr Anthro Lambie

Bydd Prifysgol Abertawe yn croesawu'r Athro Judith Lamie i'w huwch-dîm arweinyddiaeth fel Dirprwy Is-ganghellor newydd â chyfrifoldeb am bortffolio rhyngwladol y brifysgol.

Bydd yr Athro Lamie yn dechrau yn ei rôl newydd ar 1 Awst ar ôl cael cyfoeth o brofiad ym maes addysg uwch mewn uwch-swyddi strategol a rhyngwladol amrywiol blaenorol. 

Bydd .yn cydweithio â chyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol Prifysgol Abertawe, gan gefnogi ei nodau rhyngwladol uchelgeisiol drwy weithio i ehangu partneriaethau byd-eang, datblygu portffolio addysg trawswladol llwyddiannus, cynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n cael eu recriwtio a pharhau i atgyfnerthu enw da'r brifysgol fel sefydliad blaenllaw. 

Meddai'r Athro Lamie: “Rwy'n falch o ymuno â chymuned fywiog Prifysgol Abertawe ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfathrebu â myfyrwyr a chydweithwyr mewn llawer o feysydd. Rwy'n gobeithio y bydd ein gwaith yn ychwanegu at fri rhyngwladol y brifysgol drwy atgyfnerthu partneriaethau hirsefydlog a llwyddiannus, meithrin perthnasoedd newydd arloesol a helpu i drawsnewid bywydau myfyrwyr o bedwar ban byd wrth eu croesawu i Abertawe.”

Mae'r Athro Lamie wedi gweithio yn y gorffennol fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Birmingham, Cyfarwyddwr Rhyngwladol Prifysgol Leeds, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Regent, Llundain, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Middlesex, Dirprwy Is-ganghellor (Materion Allanol) ym Mhrifysgol Derby a Chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr NAVITAS UK. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel ymgynghorydd addysg uwch.

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Mae penodi'r Athro Lamie yn allweddol i'r brifysgol, o ystyried pwysigrwydd rhyngwladoli i'n llwyddiant strategol yn y dyfodol a’n cynaliadwyedd ariannol parhaus, ac rwy’n edrych ymlaen at ei chroesawu i gymuned wych Prifysgol Abertawe.”

Rhannu'r stori