Dinbych-y-pysgod

Mae awdur adroddiad newydd a gafodd ei gomisiynu gan Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi gwneud 12 o argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru a'i effaith ar gymunedau Cymraeg.

Ar ôl i Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe dderbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cafodd Dr Simon Brooks, Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ei gomisiynu i lunio adroddiad am bolisïau trethiannol a chynllunio ar gyfer ail gartrefi yng Nghymru a Chernyw. Fodd bynnag, oherwydd y diddordeb cynyddol yn y pwnc llosg, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r ymchwilydd ehangu’r ymchwil er mwyn craffu ar rai materion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi yn ogystal â gwneud argymhellion polisi.

Mae ail gartrefi yn gyfrifol am bron 40 y cant o'r stoc dai mewn rhai cymunedau yng Nghymru ac mae'r adroddiad yn rhybuddio y bydd y galw am ail gartrefi'n debygol o gynyddu o ganlyniad i Brexit a phandemig Covid-19.

Mae'r adroddiad 81 o dudalennau, sef Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, yn archwilio polisïau trethiannol a chynllunio, Brexit, pandemig Covid-19, effaith ail gartrefi ar gynaliadwyedd cymunedau, y Gymraeg a'i dyfodol.

Un o brif ganfyddiadau'r adroddiad yw bod problem ail gartrefi yn ffenomen ranbarthol a lleol yn bennaf. Patrwm rhanbarthol sydd i’r dosbarthiad o ail gartrefi a llety gwyliau, gyda nifer uchel iawn mewn rhai siroedd gwledig megis Sir Benfro, niferoedd lled uchel ond canrannau llai mewn rhai dinasoedd, a rhai ardaloedd ôl-ddiwydiannol a threfol lle nad oes fawr ddim ail gartrefi o gwbl, megis Torfaen.

Ymysg y 12 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, mae Dr Brooks yn argymell y dylid:

  • cynnal treial mewn cymuned lle cyflwynir dosbarth defnydd newydd ar gyfer ail gartrefi o dan gyfraith gynllunio. Byddai'r fath dreial yn gwerthuso ymarferoldeb ac effaith mynnu y dylid cael caniatâd cynllunio er mwyn trosi prif breswylfa yn ail gartref.
  • ychwanegu cyfradd o hyd at 4 y cant at y dreth trafodiadau tir ar ail gartrefi mewn wardiau llywodraeth leol penodol, neu fel arall ddatganoli grym i gynghorau sir i amrywio'r dreth.
  • gwneud trosi tŷ annedd yn llety gwyliau tymor byr yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai cynghorau sir pryderus godi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i 100 y cant, ac y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad ar eithrio llety gwyliau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach.

Mae Dr Brooks hefyd yn cynnwys argymhelliad penodol i gynghorau Gwynedd ac Ynys Môn gan mai'r ddwy sir hyn yw craidd yr ardal Gymraeg lle ceir y dwysedd mwyaf o ran ail gartrefi (10.76 y cant ac 8.26 y cant yn ôl eu trefn). Mae'r adroddiad yn argymell y dylent ehangu'r polisi ar gyfer y Farchnad Dai Leol yn eu Cynllun Datblygu Lleol er mwyn cynnwys mwy o gymunedau.

Mae Covid-19 a Brexit yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol yn ôl Dr Brooks, ac mae'n cynghori yn yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i wneud rhagor o argymhellion am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Meddai Dr Brooks: “Y tebygolrwydd yw y bydd problemau strwythurol megis pobl ifanc Gymraeg yn gadael cymunedau gwledig oherwydd prinder cyfleoedd economaidd yn dwysáu. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd mewn gwagle. Oherwydd newidiadau economaidd a diwylliannol yn sgil Brexit, a hefyd yn sgil pandemig Covid-19, bydd y cymunedau hyn, sydd eisoes yn neilltuol fregus yn ieithyddol, ac a fydd oherwydd yr heriau a nodwyd yn mynd yn fwy bregus, yn wynebu cystadleuaeth ddirfawr am adnoddau yn y farchnad dai.”

Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r Coleg Cymraeg yn croesawu adroddiad Dr Simon Brooks yn fawr iawn ac rydym yn falch o fod wedi gallu cefnogi’r gwaith pwysig hwn trwy ein cynllun grantiau bach. Fel a welir yn yr adroddiad mae sefyllfa tai haf yng Nghymru yn un ddyrys ac yn amrywio o ranbarth i ranbarth, ac mae’r datrysiadau yn rhai cymhleth wrth iddynt gyffwrdd â pholisïau economaidd, ieithyddol a chynllunio. Gobeithiwn yn fawr iawn y bydd yr adroddiad hwn, sy’n cynnig sylfaen dystiolaeth gadarn, yn gam pwysig ymlaen yn y drafodaeth ar y maes ac yn darparu gwybodaeth ac argymhellion i Llywodraeth Cymru wrth iddi gyflwyno polisïau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.”

Darllenwch Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru.

Rhannu'r stori