Mae tîm o academyddion o Gymru wedi datblygu dull newydd o helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau clinigol ynghylch pobl a all fod mewn perygl o ladd eu hunain. 

Er bod cyfraddau hunanladdiad yn y DU ymysg yr isaf yn y byd, dyna achos mwyaf cyffredin marwolaeth ymhlith dynion dan 45 oed. Felly, mae'n hollbwysig gallu gwneud penderfyniadau proffesiynol strwythuredig ynghylch pobl a allai geisio lladd eu hunain a gwybod sut i ymyrryd.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi rhoi protocol asesu perygl hunanladdiad (RoSP) at ei gilydd sy'n cyfarwyddo gweithwyr proffesiynol i ystyried 20 o agweddau ar fywyd unigolyn y gwyddys bod cysylltiad rhyngddynt a hunanladdiad. Yna gallant nodi beth yw problemau'r unigolyn a ffyrdd o'i helpu.

Mewn dwy astudiaeth, gwnaeth y tîm archwilio'n gyntaf a allai'r RoSP nodi achosion o hunanladdiad o blith marwolaethau damweiniol pobl a oedd yn adnabyddus i wasanaethau iechyd meddwl ac yn byw yn y gymuned a oedd wedi marw'n annisgwyl. Yn ail, archwiliwyd a allai'r protocol benderfynu pa rai fyddai'n debygol o geisio lladd eu hunain mewn ysbyty a oedd yn rhoi gofal i bobl mewn perygl clinigol uchel iawn.

Mae'r gwaith ymchwil, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw Frontiers in Psychiatry, yn dangos pa mor effeithiol y mae'r protocol yn y ddau gyd-destun.

Roedd yr Athro Nicola Gray, o Brifysgol Abertawe, yn gweithio'n therapiwtig gyda chleifion mewn perygl clinigol uchel iawn ar adeg yr astudiaeth.

Meddai: “Mae'r RoSP yn deillio o'n gwaith i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sut i nodi a rheoli achosion o drais gan y bobl yr oeddent yn gofalu amdanynt. Dywedodd y clinigwyr mai eu hanhawster clinigol mwyaf oedd nodi a rheoli'r perygl y byddai pobl yn niweidio eu hunain.

“Gofynnwyd i ni ddatblygu rhywbeth i nodi a gwella cynlluniau i ddiogelu'r bobl hynny sydd mewn perygl. Drwy fwrw golwg manwl dros ganllawiau arferion gorau, gwnaethom lwyddo i roi rhestr o ddangosyddion risg hysbys at ei gilydd y gallai clinigwyr eu nodi'n gymharol hawdd a chanolbwyntio ymyriadau arnynt, sydd o bwys mawr.

Fodd bynnag, dywedodd yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd, mai pwyll piau hi o hyd: “Ni fydd yn bosib nodi ac atal pob achos o hunanladdiad. Mae llawer o bobl yn lladd eu hunain heb weld gweithiwr proffesiynol erioed. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd defnyddio'r RoSP yn helpu'r rhai sy'n gweld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol drwy adolygu sefyllfa ac arwyddion clinigol yr unigolyn yn systematig.

“Mae angen i ni edrych ar leoliadau megis adrannau damweiniau ac achosion brys, carchardai, meddygfeydd a mannau eraill lle gall pobl fod mewn perygl o ladd eu hunain.”

Gwnaeth yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, cadeirydd grŵp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niwed, gyfrannu at y gwaith ymchwil hefyd.

Ychwanegodd: “Mae'n gyffredinol hysbys ei bod hi'n anodd iawn rhagweld achosion o hunanladdiad ac nid yw NICE yn argymell defnyddio adnoddau asesu perygl clinigol er mwyn rhagweld perygl hunanladdiad yn y dyfodol.

“Mae'r RoSP yn asesiad clinigol strwythuredig sy'n cefnogi clinigwyr i nodi ffactorau risg addasadwy y gellir mynd i'r afael â hwy wedyn. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymagweddau sy'n seiliedig ar anghenion ac yn helpu i ganolbwyntio'r asesiad ar sefyllfa unigolyn, a'r ffordd orau o reoli ffactorau risg a llunio cynllun diogelwch ar gyfer unrhyw argyfyngau yn y dyfodol.”

Structured Professional Judgment to Assist the Evaluation and Safety Planning of Suicide Risk: The Risk of Suicide Protocol (RoSP) Nicola Gray, Ann John, Aimee McKinnon, Stephanie Raybould, James Knowles and Robert Snowden

Rhannu'r stori