Logo: Amser o newid.

23ain – 25ain Mawrth 2021

Bydd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn croesawu academyddion, pobl broffesiynol a’r cyhoedd i’w gynhadledd Zoom cyntaf i gydfynd â phen-blwydd cychwyn y cyfnod clo cenedlaethol.

Thema gyffredinol y gynhadledd am ddim yw Gorffennol, Heddiw a Dyfodol mewn perthynas â'r pandemig byd-eang a'r effaith y mae wedi'i chael ar fywydau a bywoliaeth pobl hŷn. Bydd y digwyddiad yn ymdrin â phynciau fel amgylcheddau heneiddio, tai, trafnidiaeth, gwybyddiaeth a dementia, cyflogaeth a'r celfyddydau creadigol.

Fe'i cynhelir dros dri diwrnod i rannu cymaint o wybodaeth â phosibl. Bydd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn agor y gynhadledd gyda phrif gyflwyniad.

Bydd y diwrnod cyntaf yn trafod tai a thrafnidiaeth, gyda siaradwyr gan gynnwys Jeremy Porteus o Housing LIN (Rhwydwaith Dysgu a Gwella) ac Annette Edwards o GWR (Great Western Rail).

Bydd yr ail ddiwrnod yn ymdrin ag ystod eang o bynciau o dechnoleg, ymddeoliad, gweithwyr hŷn, gwirfoddoli ac amrywiol brosiectau ymchwil, gyda chyflwyniadau gan Dechnoleg Iechyd Cymru a Chymunedau Digidol Cymru.

Ar y diwrnod olaf, trafodir gwybyddiaeth a dementia, a'r celfyddydau creadigol, gyda chyflwyniadau gan cARTrefu, y prosiect Get There Together a'r prosiect Rhyng genedlaethol.

Bydd y digwyddiad cyfan yn frith o straeon bywyd go iawn gan bobl hŷn, gan rannu eu profiadau o fywyd yn ystod y pandemig.

Bydd sesiynau'n rhyngweithiol gyda'r cyfle i gymryd rhan.

Gallwch gofrestru am y gynhadledd yma.

Rhannu'r stori