Anrhydeddu darlithydd am ei gyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg

Mae academydd o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu am ei ddulliau addysgu arloesol a'i gyfraniad at y maes. 

Enillodd Dr Aidan Seeley, uwch-ddarlithydd ar y cwrs BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol, Wobr Rang (anghlinigol) yng ngwobrau blynyddol eleni a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ffarmacoleg Prydain.

Mae'r wobr uchel ei bri, sy'n werth £1,000, yn cydnabod rhagoriaeth addysgu a chaiff ei chyflwyno i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg glinigol neu anghlinigol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Meddai Dr Seeley, sydd hefyd yn ddirprwy gyfarwyddwr y rhaglen: “Mae ennill y wobr yn anrhydedd ac yn fraint fawr ac mae'n dangos bod Prifysgol Abertawe wedi rhoi'r rhyddid i mi archwilio a datblygu ffyrdd newydd a diddorol o gyflwyno ein rhaglen BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol.

“Mae derbyn gwobr sydd wedi cael ei hennill yn y gorffennol gan addysgwyr blaenllaw ac adnabyddus ym maes ffarmacoleg yn uchafbwynt i mi ar ddechrau fy ngyrfa fel addysgwr. Mae hefyd yn fy annog i barhau i wella profiad addysgol ein myfyrwyr yn yr Ysgol Feddygaeth.”

Gwnaeth yr Athro Lisa Wallace, Pennaeth Ffarmacoleg ac un o gymrodyr Cymdeithas Ffarmacoleg Prydain sy'n aelod o'i chyngor ar hyn o bryd, longyfarch Dr Seeley am ei gamp.

Meddai: “Mae ennill y wobr hynod gystadleuol hon, sy'n uchel ei bri, yn gamp ragorol gan Dr Seeley. Mae'n adlewyrchu ei sgiliau ardderchog fel athro a ffarmacolegydd.

“Mae ei frwdfrydedd dros ffarmacoleg a'i allu i gyfleu cysyniadau gwyddonol cymhleth mewn ffordd glir, gryno a difyr o fudd anferth i'n myfyrwyr. Mae ef hefyd yn gefnogol ac yn gosod esiampl i aelodau o staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Llongyfarchiadau, Aidan!”

Ceir mwy o wybodaeth am ein rhaglen ffarmacoleg a chyrsiau israddedig eraill yn ystod ein diwrnod agored rhithwir nesaf. Cofrestrwch nawr

 

Rhannu'r stori