Effaith patrymau aer newidiol ar ehediad adar

Rydyn ni’n defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i fapio llwybrau hedfan anifeili

Rydyn ni’n defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i fapio llwybrau hedfan anifeiliaid

Y Her

Bydd pawb sydd wedi teithio mewn awyren yn ymwybodol o bwysigrwydd y tywydd ar gyfer hedfan: mae'r gwynt a thyrfedd yn effeithio ar lwybrau teithio awyrennau, yr amser mae'r ehediad yn ei gymryd a chyfanswm y tanwydd a ddefnyddir.

Mae ymddygiad yr awyr yr un mor bwysig i adar wrth iddynt hedfan, p'un a ydynt ar eu hehediadau beunyddiol, eu teithiau mudo blynyddol neu'n chwilio am rywle i nythu. Ond gall fod yn her dadansoddi'r perthnasoedd hyn, oherwydd yn ogystal â bod yn anweledig, mae'r awyr fel arfer yn symud yn ddi-baid.

Yr Effaith

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i fonitro symudiadau anifeiliaid, eilliad wrth eiliad, i ddeall y gost o ran egni, a sut mae anifeiliaid yn ymateb i'n byd newidiol.

Twnnel gwynt 20 tunnell newydd sy'n gogwyddo i astudio ehediad adar

Mae'r twnnel gwynt yn gyfleuster newydd a ddyluniwyd i alluogi biolegwyr a pheirianwyr i wneud ymchwil ar y cyd. Mae ganddo ardal brofi fawr lle mae adar yn hedfan (1.8m o led wrth 1.5m o uchder wrth 2.2m o hyd). I gyflymu awyr drwy ofod mor fawr, mae angen strwythur sylweddol i gynnwys y gwyntyllau, lleihau sŵn y gwyntyllau a chadw tyrfedd y llif awyr mor isel â phosib. Mae'r twnnel ei hun yn gogwyddo hefyd, sy'n golygu bod modd astudio ehediad esgynnol a gleidio. Y canlyniad yw twnnel dros 17m o hyd sy'n pwyso mwy nag 20 tunnell. Diben hyn oll yw gwella ein dealltwriaeth o adar sy'n pwyso tua'r un faint â thun o ffa.

Rydym yn atodi cofnodwyr data bychain, amledd uchel, i adar i gofnodi manylion curiadau eu hadenydd yn y twnnel gwynt ac yn cyfatebu hynny â'r egni sydd ei angen ar eu hehediad. Rydym yn defnyddio'r un cofnodwyr gydag adar sy'n hedfan yn y gwyllt, er mwyn asesu sut mae'r gwynt a thyrfedd yn effeithio ar gyfanswm yr egni a ddefnyddir wrth hedfan a'u penderfyniadau.

Troi'r anweledig yn weledig

Wrth ddewis ble i nythu, ymddengys nad yw pob clogwyn cystal â’i gilydd. Gall y graddau mae clogwyn yn agored i'r gwynt mynychaf ragfynegi mannau bridio gwylogod cyffredin. Gallai’r math hwn o fodelu fod yn bwysig i benderfyniadau rheoli, yn enwedig lle mae cytrefi wedi diflannu, a gallai alluogi pobl i ragfynegi’r ardaloedd y gall rhywogaethau ddychwelyd iddynt, neu i ba ardaloedd y dylid eu hannog i ddychwelyd. Mae hyn yn berthnasol i'r adar môr niferus lle gwelwyd gostyngiad dramatig yn eu poblogaethau yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Defnyddiodd ein tîm fodelau dynameg hylifau gyfrifiadol, wedi'u benthyca o'r adran beirianneg, i greu darlun gweledol o ymddygiad yr awyr ar raddfeydd manwl ac i amcangyfrif y gwynt a'r tyrfedd a brofir gan adar môr yn agos at y clogwyni lle maent yn nythu.

Datblygu tagiau yn Labordy Symudiadau Anifeiliaid Abertawe

Mae Labordy Symudiadau Anifeiliaid Abertawe (SLAM) yn defnyddio ymagweddau ar sail unigolion i archwilio sut, pam ac i ble mae anifeiliaid yn symud. Rydym yn arbenigo mewn technegau newydd i dagio anifeiliaid ac yn parhau i ddatblygu'r synwyryddion a ddefnyddir gydag anifeiliaid, y dulliau gorau o'u hatodi, yn ogystal â'r metrigau i alluogi ecolegwyr i ddeall symudiadau anifeiliaid a'u costau o ran ynni (yn enwedig drwy Gyflymu Dynamig y Corff). 

Mae hyn yn rhoi golwg newydd i ni ar anifeiliaid, boed gondoriaid sy'n hedfan gannoedd o fetrau uwchben yr Andes, llewod yn patrolio terfynau gwarchodfa, neu bengwiniaid yn troelli ac yn troi wrth hela ysglyfaeth o dan y dŵr.

Ariennir yr Athro Emily Shepard gan grant a ddechreuwyd gan ERC, a ddyfernir o dan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. Mae hi hefyd wedi derbyn cyllid gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a'r National Geographic Global Exploration Fund.

Yr Effaith

Dangosodd canfyddiadau'r tîm ynghylch condoriaid yr Andes, a ddisgrifiwyd mewn papur diweddar, pa mor fedrus yw'r adar hyn wrth ddod o hyd i gerrynt aer esgynnol, gan dreulio 1% yn unig o'u hamser hedfan yn curo eu hadenydd.  Cofnodwyd ehediad un aderyn a oedd wedi teithio dros 100 milltir heb guro ei adenydd unwaith.

Gall gwaith cydweithredol pellach ar sut mae gwylanod yn hedfan yn uchel dros adeiliadau helpu pan ddaw i gynllunio llwybrau hedfan ar gyfer cerbydau awyr heb yrwyr (UAVs) a dronau mewn tirluniau dinesig. Mewn ffordd debyg i adar, mae gwyntoedd a thyrfedd yn effeithio ar y rhain, llawer yn fwy nac awyrennau mwy. Bydd hedfan ar uchderau isel yn agos iawn i’r dirwedd ac adeiladau’n heriol, gan nad yw systemau rheoli hediadau wedi cael eu datblygu i ymdopi ag amgylcheddau dinesig. 

Gallai deall lle mae adar môr yn nythu fod yn bwysig ar gyfer penderfyniadau rheoli, gan alluogi pobl i ragfynegi i ba ardaloedd y gall rhywogaethau ddychwelyd. Mae hyn yn berthnasol i'r rhywogaethau niferus y gwelwyd cwymp dramatig yn eu niferoedd yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Arweinydd Ymchwil

Yr Athro Emily Shepard

Athro Emily Shepard
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Affordable and clean energy UNSDG
UNSDG Sustainable Cities and Communities
UN Sustainable goal - Life on Land
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe