Ffisioleg ac ymddygiad Babŵn yn Ne Affrica

Rydym yn gweithio i ddeall ffisioleg ac ymddygiad babŵn yn Ne Affrica

Babŵns yn Ne Affrica

Gyda'r boblogaeth ddynol yn tyfu'n gyson ac yn ehangu i gynefinoedd naturiol, rydym yn gweld mwy a mwy o ryngweithiadau rhwng pobl a bywyd gwyllt. Yn Ne Affrica, mae cyfarfyddiadau rhwng pobl a mwnci hynod addasadwy - y babŵn chacma (Papio ursinus) - yn rhemp.

Yn aml, bydd y rhyngweithiadau hyn yn arwain at broblemau niferus:

  1. Ar diroedd amaeth, mae babŵns yn aml yn fforio cnydau, gan arwain at golledion economaidd ac yn lleihau cnydau i ffermwyr.
  2. Mewn planhigfeydd mewn coedwigoedd, mae babŵns yn rhwygo rhisgl oddi ar goed, gan niweidio diwydiant y goedwig.
  3. Mewn ardaloedd trefol, yn aml bydd babŵns yn fforio am fwyd dynol, gan beri difrod a chaledi ariannol i berchnogion tir.

Mae'n heriol i'r rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau i lunio strategaethau rheoli sy'n lleihau rhyngweithiadau negyddol a geir rhwng pobl a babŵns yn y cyd-destunau gwahanol hyn oherwydd bod prinder gwybodaeth o ble, pryd a pham y ceir y rhyngweithiadau hyn. Er mwyn cael yr atebion, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, a arweinir gan Dr Andrew King, yn astudio seicoleg ac ymddygiad babŵns ar draws rhanbarthau gwahanol yn Ne Affrica.

Yr Effaith

Mae Dr King a'i dîm yn defnyddio nifer o offer pwysig i gynnal eu gwaith ymchwil gan gynnwys mesuriad nad yw'n fewnwthiol o seicoleg ac iechyd babŵns (o faw a throeth) a defnyddio'r coleri olrhain personol sy'n cynnwys GPS a synwyryddion cyflymu. Gyda'i gilydd, bydd yr offer hyn yn cynnig cipolwg unigryw ar leoliad a gweithgareddau babŵns, yn ogystal â'u statws seicolegol.

I hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, llunio polisïau, a dylanwadu ar arferion gorau yn y maes, mae'r tîm o Brifysgol Abertawe yn gweithio gyda Phrifysgol Cape Town a'i Sefydliad ar gyfer Cymunedau a Bywyd Gwyllt yn Affrica (iCWild) yn Ne Affrica.

Yr Effaith

Mae ymchwil Dr King yn arddangos gallu rhagorol babŵns i addasu a'u gallu i addasu i amgylchoedd dynol, gan daflu goleuni ar rinweddau penodol sy'n hanfodol i fywyd gwyllt ffynnu yn yr oes Anthropogenig, lle mae gweithgareddau dynol yn cael effaith sylweddol ar y byd naturiol.

Drwy gael dealltwriaeth o ysgogwyr y rhyngweithiadau rhwng babŵns a phobl, gall cymunedau gymryd camau i leihau canlyniadau andwyol a meithrin dull o gyd-fyw. Er enghraifft, o ganlyniad uniongyrchol i'r ymchwil a'r adborth yn Cape Town, diwygiwyd y protocolau sy'n llywodraethu rheoli babŵns. Mewn un ardal, mae hyn wedi arwain at ostyngiad mewn cwynion ac adroddiadau o gyfarfyddiadau negyddol â babŵns, gyda'r anifeiliaid hyn ddwywaith y pellter i ffwrdd o ardaloedd trefol o'i gymharu â phan ddechreuodd y tîm o Brifysgol Abertawe ar ei waith.

Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe