Dr Andrew King

Dr Andrew King

Athro Cyswllt, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606991

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - 136
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Andrew King yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn ymddygiad anifeiliaid.

Mae Andrew yn Bennaeth SHOALgroup ac yn aelod o’r Behavioural Ecology and Evolution Research Theme yn yr Adran Biowyddorau. Mae wedi dal Cymrodoriaethau yn y gorffennol (NERC, AXA) mewn Prifysgolion yn y DU a dyfarnwyd swyddi gwadd a mygedol iddo yn Ewrop ac Affrica. Mae’n Olygydd Cyfnodolion profiadol.

Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac wedi derbyn Gwobr y Brifysgol am Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu mewn Prifysgol. Mae wedi dal swyddi arweinyddiaeth amrywiol sy’n gysylltiedig â monitro, cynnydd a chydymffurfiaeth myfyrwyr Ymchwil Ôl-ddoethurol, ac mae wedi creu rhaglenni PGR cymeradwy ar lefel Meistr a Doethuriaeth. Mae Andrew yn Gyfarwyddwr rhaglen radd Biowyddorau, MRes.

Mae Andrew yn gyflwynydd ac yn brif siaradwr arobryn. Mae’n mynd ati’n rheolaidd i gyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng Print, Ar-lein, ar y Teledu a’r Radio, ac mae’n cyflwyno gweithdai a seminarau pwrpasol gan ddarparu safbwynt esblygiadol ar arweinyddiaeth a gwaith tîm.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymddygiad anifeiliaid
  • Ecoleg ymddygiadol
  • Ymddygiad cyfunol
  • Ecoleg gymdeithasol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Andrew yn cyflwyno gweithgareddau addysgu ar lefel gradd mewn ymddygiad ac esblygiad anifeiliaid ac mae’n cael ei wahodd i ddarlithio ar raglenni hyfforddiant gradd a doethuriaeth yn rheolaidd ar hyd a lled y byd.

Ymchwil Prif Wobrau